Bu ymladd yn Dacia yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Domitian, ond gorchfygwyd byddinoedd Rhufeinig yn 87 ac eto yn 88 gan Decebalus, brenin Dacia. Bu raid i Rufain dalu i'r Daciaid am heddwch. Fodd bynnag bu'r ymerawdwr Trajan yn fwy llwyddiannus. Yn fuan ar ôl dod yn ymerawdwr yn 98 dechreuodd gyfres o ymgyrchoedd a arweiniodd at ymgorfforiad Dacia fel talaith o'r ymerodraeth yn 107. Rhannodd yr ymerawdwr Hadrian Dacia yn ddwy dalaith, Dacia Inferior a Dacia Superior. Yn 159 crëwyd trydydd talaith, Dacia Porolisense, ac ail-enwyd y ddwy arall yn Dacia Apulensis a Dacia Malvensis, Yn 168 dan yr ymerawdwr Marcus Aurelius unwyd hwy yn un dalaith unwaith eto.
Prifddinas y dalaith oedd Sarmizegetusa, a enwyd y Ulpia Traiana am gyfnod. Bu rhyfela cyson ar y ffin, gyda'r Sarmatiaid yn ymosod yn barhaus. Ildiodd Rhufain y dalaith yn 275.