Cleddyfa yw'r grefft ymladd â chleddyf. Cafodd ei datblygu yn wreiddiol ar faes y gad, ac wedyn, fel ffordd o amddiffyn eich anrhydedd mewn gornest (yn aml iaw
| Enghraifft o: | math o chwaraeon, chwaraeon olympaidd |
|---|---|
| Math | combat sport, chwaraeon olympaidd |
| Yn cynnwys | Q3381658, attack, épée fencing |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02y8z |

Cleddyfa yw'r grefft ymladd â chleddyf. Cafodd ei datblygu yn wreiddiol ar faes y gad, ac wedyn, fel ffordd o amddiffyn eich anrhydedd mewn gornest (yn aml iawn hyd at farwolaeth un o'r gornestwyr).
Heddiw, mae cleddyfa mor boblogaidd ag erioed, ond nid mor ddifrifol, ac ychydig iawn sy'n cael eu hanafu.[1] Fe'i defnyddir yn bennaf fel mabolgamp neu i archwilio ffurfiau hanesyddol o groesi cleddyfau. Mae cleddyfa yn un o bedair camp sydd wedi ymddangos ym mhob Gemau Olympaidd Modern ers 1896. Y gweddill yw athletau, seiclo, nofio a gymnasteg.
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar gleddyfa fel mabolgamp orllewinol fodern, a cheir sôn am gleddyfa hanesyddol a chleddyfa dwyreiniol.
Tri math o gleddyf sy'n cael eu ddefnyddio heddiw: ffwyl, cleddyf blaenbwl (épée) a sabr. Mae rheolau'r tri math o gleddyfa yn wahanol ond yn gysylltiedig.
Yn 1913 cafodd corff llywodraethol cleddyfa, y FIE (Fédération Internationale d'Escrime), ei sefydlu fel dilyniant i'r Société d'encouragement de l'escrime.[2] Dim ond pedwar pennaeth syth wedi rheoli'r FIE, a'r pennaeth presennol ydy Alisher Usmanov.
Mae gornest cleddyfa yn digwydd ar piste, sef man hir a chul (14m x 1.5 i 2m), rhwng dau gleddyfwr. Nod yr ornest yw taro eich gwrthwynebwr ar y targed cleddyfa. Rhoddir pwynt am drawiad cywir, ac fel arfer mae'r ornest yn parhau nes i'r cyntaf gyrraedd 5 pwynt, ond weithiau 10 neu 15 yw'r swm. Ac mae cystadleuaeth tîm yn mynd hyd at 45 pwynt.
Mae'r ddau gleddyfwr yn gwisgo siwt gwyn, gan gynnwys mwgwd, maneg (ar y llaw sy'n dal y cleddyf yn unig), siaced a phlastron (h.y. siaced fach sy'n mynd o dan y brif siaced i roi amddyfiniad ychwanegol i'r corff), trowsus pen-glin, sanau hirion ac esgidiau. Fel arfer, mewn cystadleuaeth, defnyddir offer trydanol i gadw'r sgor, felly mae'n rhaid i'r cleddyfwyr wisgo gwifrau o dan y siaced hefyd. Gyda'r sabr a'r ffwyl, bydd y cleddyfwyr yn gwisgo siaced ychwanegol o’r enw'r lamé.
Ffwyl

Dyma'r cleddyf ysgafnaf, gyda llafn petryalog a hyblyg. Datblygodd y ffwyl (Ffrangeg: florette, Saesneg: foil) yn wreiddiol ar gyfer hyffordiant; mae hyn yn esbonio'r targed sef y torso, neu leoliad yr organau hanfodol. Yn 2009, estynnodd y FIE (Fédération Internationale d'Escrime) y targed i gynnwys y gwddf - i gleddyfwyr dros 13 blwydd oed.[3] Mae rheoli'r pwynt (point control) yn hanfodol i gleddyfwr, gan fod cyffyrddiad â'r fraich, y goes neu â'r mwgwd yn dileu'r pwynt sy'n dilyn. Fel rhan o'i ymarfer, bydd cleddyfwr yn ail-wneud ergyd dro ar ôl tro i ddatblygu cof y cyhyrau ac i ddod yn fanwl gywir. I sgorio, bydd cleddyfwr yn cydsymud ei fraich a'i droedwaith. Gan fod amseriad da yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng taro'r gwrthwynebwr neu beidio. Ar y lefel uchaf, gall milimedrau a hanner eiliadau fod y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli. Mae sbring coil o fewn pen y ffwyl, a rhoddir pwyntiau am lanio'r ffwyl ar y targed gyda thua 5 Newton o bwysedd. Bydd cleddyfwr yn gwisgo siaced o ddefnydd metelig, sef y lamé a gwifren ben sy'n cysylltu â'r mwgwd. Mae'r ergydion yn cael eu nodi ar beiriant electronig. Os bydd y cleddyfwr yn taro'n syth ar darged, bydd golau lliwgar, gwyrdd (dde) neu goch (chwyth) yn goleuo a golau gwyn pan fo'r coesau, pen y mwgwd, neu'r breichiau'n cael eu taro.

Fel sabr, mae ffwyl yn cael ei ddehongli trwy reolau hawl i dramwyo (right of way). Wrth inni edrych ar symudiad cleddyfa, mae'n rhaid cwestiynu bwriad y cleddyfwr yng nghyd-destun ei wrthwynebwr.[4] Er enghraifft, os bydd un cleddyfwr yn ymosod a'r llall yn gwrthymosod, mae'r pwynt yn mynd i'r person a ymosododd. Bydd dyfarnwr yn dynodi blaenoriaeth i'r cleddyfwr sy'n ymosod. Diffiniad y FIE o ymosodiad ydy: Symudiad blaenorol trwy estyn y fraich a bygythio'r targed cleddyfa yn barhaol t.7.1.[5].
Bydd dyfarnwr hefyd yn dehongli llwyddiannt yr ymosodiad. Er enghraifft, bydd oedi, plygu'r fraich wrth ymosod neu chwilio am gleddyf y gwrthwynebwr, yn cael i ddehongli fel y cleddyfwr yn paratoi. O dan yr amodau hyn, bydd dyfarnwr yn gwobrwyo gwrthymosod llwyddiannus. Bydd taro cleddyf y gwrthwynebwr, wrth symud ymlaen, hefyd yn rhoi blaenoriaeth. Ond rhaid i'r ergyd ddigwydd ar 2/3 uchaf (foilbe) y cleddyf. Ffurf arall i sefydlu blaenoriaeth ydy pwynt yn unol (point in line). Bydd cleddyfwr yn ymestyn braich syth tuag at y targed cyn i'r gwrthwynebwr ymosod. Ond collir y pwynt yn unol os bydd y cleddyfwr yn camu ymlaen neu wrth i'r gwrthwynebwr daro'r cleddyf.
Mae gwahanol ffyrdd o allu adennill blaenoriaeth. Enghraifft seml ydy osgoi'r ymosodiad naill ai drwy droedwaith (camu yn ôl), symudiad corff (neidio, dowcio) neu trwy gyfuniad o'r ddau. Bydd pario, sef blocio cleddyf eich gwrthwynebwr gyda forte eich cleddyf, hefyd yn adennill blaenoriaeth. I ennill pwynt, bydd rhaid i'r cleddyfwr wneud riposte (ymosodiad sy'n dilyn y parry) llwyddiannus ac osgoi counter-riposte (riposte sy'n dilyn parry llwyddiannus ar riposte neu counter-riposte y gwrthwynebwr).

Mae'r cleddyf blaenbwl (Ffrangeg/Saesneg: épée) yn edrych ar yr olwg gyntaf fel fersiwn mwy a thrymach o'r ffwyl. Ond, wrth edrych yn fanwl, gwelir sawl wahaniaeth. Yn gyntaf, mae'r llafn wedi ei chynllunio'n wahanol. Yn lle llafn betryalog, mae'r cleddyf wedi ei greu trwy blygu darn o dir mewn i siâp V. Y gwahaniaeth nesaf ydy siâp y gard, mae'n ddyfnach sy'n golygu mwy o amddiffyn i'r llaw. Ac yn olaf, mae'r wifren gorff a'r soced yn unigryw. Tarddiad y cleddyf blaenbwl ydy'r duelling sword gan fod y targed yn cynnwys popeth. Mewn gornest glasurol, bydd ergyd yn golygu colli gwaed. Ac mae'r egwyddor hon yn cael ei hadlewyrchu yn y fabolgamp fodern lle rhoddir pwyntiau am lanio'r cleddyf unrhyw le ar y gwrthwynebydd. Ond nid yw taro cleddyf y gwrthwynebwr neu'r llawr yn cyfrif.
Mae'r targed yn cael ei rannu'n dair - y targed agosaf, sef y fraich blaen y goes; y targed canol, sef y bongorff a'r pen; a'r targed pellaf, sef y goes a'r fraich bellaf i ffwrdd. Does dim rheolau hawl i dramwyo (right of way) mewn cleddyfa blaenbwl, felly, os bydd dau gleddyfwr yn taro ei gilydd, mae'r ddau'n cael pwyntiau. Mae'n golygu bod cleddyfwyr yn tueddu i fod yn fwy amyneddgar a gwyliadwrus o'u cymharol â rhai ffwyl a sabr. Gall ymosodiad brwd roi cyfle euraid i'r gwrthwynebwr i sgorio pwynt ar flaen y targed. Mae'r pellter rhwng y cleddyfwyr yn tueddu i fod yn fwy o'i gymharol â rhai ffwyl. Felly, mae gwrthymosod yn tueddu i fod yn fwy poblogaidd o'i gymharu â parry riposte.

Yn wahanol i'r ddau gleddyf arall, lle sgorir pwynt yn unig, mae'r sabr yn defnyddio min y llafn hefyd. Oherwydd hynny, mae ei dechneg yn eitha gwahanol. Allan o’r tri, mae'r nifer fwyaf o newidiadau wedi digwydd i sabr dros y blynyddoedd. Tarddiad y sabr modern ydy'r Scimitar Arabaidd, a fabwysiadwyd gan Ymerodraeth yr Otomaniaid a Llwythau Hwngari yn yr 16eg ganrif. Erbyn y 18fed ganrif, fe'i gwelid ar draws Ewrop yn nwylo Marchfilwyr. Defnyddid cleddyfau â llafn eang, ac roedd milwyr yn tueddu i'w defnyddio nhw i slaesio. Mae hyn yn esbonio nodweddion y fabolgamp frn; defnydd min y llafn ar darged cleddyfa, sef pen ucha'r corff. Datblygwyd y Sabr Modern yn yr Eidal yn y 19eg ganrif.[6] Aeth y sabr yn ysgafnach, llafn fwy cul, a newidiwyd y dechneg, felly roedd llai o bwyslais ar y benelin. Nawr bydd symudiad yn dechrau gyda'r bysedd a'r arddwrn. Newidiodd y pwyslais o greu llanastr ar faes y gad i symudiadau cyflym ac effeithlon y fabolgamp fodern.
Doedd offer trydanol ddim wedi cael eu datblygu ar gyfer Sabr tan 1988, sef 32 flynedd ar ôl y ffwyl a 52 flynedd ar ôl y cleddyf blaenbwl. Cyn hynny, câi'r Sabr ei ddyfarnu trwy olwg. Ac i wneud pethau yn anos i'r dyfarnwr, mae sabr yn cael ei ddehongli trwy reolau hawl i dramwyo fel y ffwyl.
Mae’r rhan fwyaf o wisg cleddyfa (Siaced, Clos peng-lin a Phlastron) yn cael i brofi gyda safonau diogelwch Newton (N)



|
Am restr fanwl cliciwch y linc Rhestr Cyfarpar Cleddyfa
Defnyddiwyd ffurf gwbl unigryw i allu symud wrth cleddyfa. Mae troedwaith yn hynod o syml, ond i feistri, mae’n cymryd amser, ymarfer ac amynedd. Yn gyntaf, rhaid dod yn gyfarwydd â'r safle en guard. Bydd cleddyfwr yn sefyll gyda'i choesau mewn siâp L gyda'r goes flaen (sy'n cyd-fynd ar law sy'n dal y cleddyf) yn pwyntio tuag at y gwrthwynebwr. Hefyd bydd cleddyfwr yn plygu ei choesau gyda ei phenliniau dros yr esgidiau. Mae hyn yn helpu cydbwysedd a chraidd disgyrchiant.
Yn gyntaf symudwch eich coes blaen. Rydych eisiau glanio’r goes, felly bydd y sawdl yn cyffwrdd â'r llawr. Yn syth ar ôl hyn, rydych eisiau trosglwyddo'r pwysau ymlaen a gadael i'r gwadn gyffwrdd â'r llawr. Wrth wneud hyn, symudwch eich coes ôl, a chwblhewch y cam. Rydym wedi cymryd cam ymlaen.
Mae’r dechneg yn debyg iawn ond, y tro hwn, rydym yn arwain gyda’r troed ôl yn hytrach na'r troed blaen. Symudwch eich coes ôl. Rydych eisiau ongli, felly mae’r gwadn yn cyffwrdd a'r llawr. Wedyn, trosglwyddwch eich pwysau am yn ôl. Wrth wneud hyn, symudwch eich coes blaen. I gwblhau’r cam, rhowch eich esgid ôl yn fflat ar y llawr.
Datblygodd y cleddyf main (neu'r rapier) a'r cleddyf bychan allan o gleddyfau cynharach ac, yn eu tro, fe ddaethant yn ffwyl a'r cleddyf blaenbwl modern.
Datblygwyd Cleddyfa Mabolgampaidd o sawl math gwahanol o gleddyfa hanesyddol ledled Ewrop, gyda phob un â'i nodweddion cenedlaethol ei hunan. Yn ogystal ag amrywio rhwng gwledydd, mae nodweddion cleddyfa hanesyddol yn newid rhwng gwahanol oesau, megis yr Oesoedd Canol, y Dadeni Dysg a'r Cyfnod Modern Cynnar. Ceir y testun cynharaf o gleddyfa hanesyddol gorllewinol ("Historical Western Martial Arts") yn archifau'r Almaen I.33 , testun sy'n dyddio i'r Oesoedd Canol.
Ers diwedd yr 20g, cynyddodd y diddordeb mewn ail-greu Cleddyfa Hanesyddol o'r testunau gwreiddiol, gyda chymorth twf y rhyngrwyd. Mae nifer o grwpiau ledled y byd yn ymddiddori mewn gwahanol arfau, adegau a thechnegau. Ym Mhrydain, mae nifer ohonynt yn cwrdd o dan faner Ffederasiwn Cleddyfa Hanesyddol Brydain (BFHS), sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, ac sy'n hybu rhannu gwybodaeth yn gorfforol ac yn ddamcaniaethol.
Ar hyn o bryd, does dim gwybodaeth am unrhyw femrwn ar gleddyfa hanesyddol Cymraeg ar wahân i'r testun y Pedwar Camp ar Hugain, dogfen a ymyrrwyd ynddi gan Iolo Morganwg yn y 18g (gweler Pedair Camp ar Hugain)
Datblygodd cleddyfau a chleddyfa yn wahanol iawn yn y gorllewin ac yn y dwyrain.
Cafodd y clefydd le pwysig iawn yn niwylliant Japan, fel prif arf y samurai. Mae sawl crefft ymladd Japanïaidd yn ymwneud â'r cleddyf, e.e. kendo, iaijutsu. Caiff le pwysig mewn crefftau megis aicido hefyd.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.