Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 2012, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXX Olympiad ac a gynhaliwyd yn Llundain, Lloegr o 27 Gorffennaf hyd 12 Awst 2012.[1] Roedd oddeutu 10,000 o athletwyr o 204 o Bwyllgorau Cenedlaethol Olympaidd yn cymryd rhan.[2] O ran nifer y medalau, Unol Daleithiau America a orfu, gyda Tsieina'n ail a Phrydain yn drydydd.
Cytunwyd ar y lleoliad ar 6 Gorffennaf, 2005 ar eisteddiad y 117fed sesiwn o'r corff rheoli a oedd yn cyfarfod yn Singapôr, pan drechwyd ymgais Moscow, Madrid a Paris. Arweinyddion yr ymgais am y gemau ar ran Llundain oedd Sebastian Coe a Ken Livingstone.[3] Llundain oedd y ddinas gyntaf i gynnal y Gemau Olympaidd modern deirgwaith,[4][5] wedi iddynt gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 1908 ac 1948.[6][7]
Bu beirniadaeth ynglŷn â chyllid y gemau,[8][9] ond croesawyd hwy gan eraill oherwydd yr ail-ddatblygu y buasai'n digwydd yn nwyrain Llundain – yn enwedig ar sail cynaliadwyedd.[10] Canolbwynt y gemau oedd Parc Olympaidd 200 hectar, a adeiladwyd ar gyn-safle ddiwydiannol yn Stratford, Llundain.[11] Defnyddiodd y Gemau hefyd nifer o leoliadau oedd eisoes wedi eu hadeiladu cyn cychwyn y cais.
Roedd naw dinas wedi gwneud cais i gynnal Gemau Olympaidd 2012 erbyn y dyddiad cau, 15 Gorffennaf 2003, sef Havana, Istanbul, Leipzig, Llundain, Madrid, Moscow, Dinas Efrog Newydd, Paris a Rio de Janeiro.[12]
Ers i'r Deyrnas Unedig gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 1948, gwnaethpwyd tri chais ar gyfer y Gemau – Birmingham ar gyfer 1992, a Manceinion ar gyfer 1996 a 2000. Cychwynnodd y cynllunio o flaen llaw ar gyfer cais posibl i Lundain ar gyfer 2012 ym 1997.[13] Roedd y DU eisoes wedi bod yn llwyddiannus yn cynnal Pencampwriaeth Ewro UEFA 1996 a Gemau'r Gymanwlad 2002, a chytunodd y PORh fod y DU yn gallu cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr.[14]
Dywedodd Maer Llundain, Ken Livingstone, mai ei brif ysgogiad ar gyfer cychwyn a lobïo dros gais y ddinas oedd datblygu East End Llundain, ardal a oedd wedi cael ei difreintio a'i hesgeuluso am dri-deg mlynedd.[15] Ar 18 Mai 2004, lleihawyd y nifer o ddinasoedd cais gan yr IOC, yn dilyn gwerthusiad technegol, o naw i bump: Llundain, Madrid, Moscow, Efrog Newydd a Pharis.[16]
Roedd pob un o'r pum dinas wedi cyflwyno eu ffeiliau ymgais erbyn 19 Tachwedd 2004, ac ymwelwyd â hwy gan dîm arolygu'r PORh yn ystod mis Chwefror a Mawrth 2005. Dioddefodd cais Paris yn ystod yr ymweliad wrth i nifer o streiciau gyd-ddigwydd gyda'r ymweliad, ac adroddiad yn erbyn un o aelodau tîm cais Paris dros honiadau i gyllid plaid wleidyddol fod wedi eu llygru.[17]
Ar 6 Mehefin 2005, rhyddhawyd adroddiadau gwerthuso'r PORh. Er nad oedd unrhyw sgôr na rheng wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, Paris oedd i'w weld â'r adroddiad mwyaf ffafriol, gyda Llundain yn ail agos. Derbyniodd Efrog Newydd a Madrid adroddiadau positif iawn hefyd.[18]
Disgwyliwyd i 10,500 o chwaraewyr o 204 Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol (POC) gymryd rhan,[2], gan ragori Gemau Olympaidd yr Haf 1948 yn Llundain a Gemau'r Gymanwlad 2002 ym Manceinion fel y digwyddiad aml-chwaraeon mwyaf erioed i gael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig.[19]
Roedd tri chwaraewr o Bwyllgor Olympaidd yr Antilles Iseldiraidd, a gafod eu aelodaeth o'r PORh wedi ei ymwrthod gan y pwyllgor gweithredol yn 2011, ac un chwaraewr o Dde Swdan, sydd heb POC, yn cystadlu'n annibynnol dan y faner Olympaidd.[20]
Roedd 26 o chwaraeon gan gynnwys 39 o ddisgyblaethau yn y Gemau. Cynhaliwyd y chwaraeon canlynol yn y gemau hyn, gyda'r nifer o gystadlaethau mewn cromfachau:
Cafodd paffio merched ei gynnwys am y tro cyntaf erioed yn y gemau hyn, gyda 36 o chwaraewyr yn cymryd rhan yn yr amryw ddosbarthiadau pwysau. Rhoddwyd caniatâd arbennig er mwyn galluogi cynnal cystadlaethau saethu yn y Gemau, gan y byddai fel arall wedi bod yn anghyfreithlon o dan gyfraith saethu gwn y Deyrnas Unedig.[228][229] Dychwelodd parau cymysg Tenis i'r rhaglen Olympaidd am y tro cyntaf ers 1924.[230]
Roedd 28 o chwaraeon wedi eu cynnwys yng nghais Llundain ar gyfer y Gemau, fel y bu yng Ngemau'r Haf cynt, ond pleidleisiodd y PORh i ddisgyn pêl fas a phêl feddal o'r Gemau ar gyfer 2012 deuddydd wedi iddynt ddewis Llundain fel y ddinas gwestai. Datganodd y PORh eu bod eisiau disgyn y chwaraeon rhain yn ystod Gemau Olympaidd y Gaeaf 2006, ond collasant bleidleisiau dros ail-ystyried y chwaraeon, a chawsont eu cynnwys am y tro diwethaf yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008.[231] Yn dilyn y penderfyniad i'w disgyn, cynhaliodd y PORh bleidlais ynglŷn â ddylid cyflwyno chwaraeon newydd yn eu lle. Cysidrwyd karate, sboncen, golff, chwaraeon rholer a rygbi saith bob ochr. Karate a sboncen a enwebwyd yn y pen draw, ond ni enillont ddigon o bleidleisiau - y ddau draean o'r bleidlais a oedd angen i'w cynnal.[231]
Er bod chwaraeon arddangos swyddogol wedi cael eu dileu yn dilyn Gemau Olympaidd yr Haf 1992,[232] gellir cynnal twrnameintiau arbennig ar gyfer chwaraeon sydd ddim yn rhai Olympaidd yn ystod y Gemau, megis twrnemaint Wushu yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008.[233] Roedd sawl ymgais i gynnal twrnameintiau Criced Twenty20,[233] a phêl-rwyd[234] ar y cyd gyda Gemau 2012, ond ni fu'r ymgyrchoedd yn llwyddiannus.
Geraint Thomas a Tom James oedd y cystadleuwyr gwrywaidd Cymreig mwyaf llwyddiannus. Enillodd Thomas fedal aur yn y ras ymlid tîm. Enillodd James fedal aur yn Rhwyfo. Jade Jones oedd y cystadleuydd benywaidd mwyaf llwyddiannus o Gymru, gyda medal aur yn taekwondo.
From the 27th of July 2012 – 204 countries will send more than 10,000 athletes to compete in 300 events