- Gweler hefyd Dinas (gwahaniaethu).
Pentref bychan tua 3 milltir i'r gogledd o'r Bont-faen ym Mro Morgannwg, de Cymru, yw City (ni cheir ffurf Gymraeg ar yr enw).[1]
Mae tarddiad ac ystyr yr enw lle "City" yn ansicr. Yn amlwg nid yw'n air Cymraeg yn y ffurf honno ond fe allai fod yn ffurf Seisnig ar enw Cymraeg sydd bellach yn anhysbys. Yn ôl rhai trigolion lleol mae'n llygriad o "Saith tŷ" ond ymddengys hynny'n annhebygol. Ond ceir yr hen air Cymraeg cyty, sy'n golygu "cydbreswyliad, cymdeithas dan yr unto; … tŷ a rennir ag eraill; tŷ dan yr unto",[2] ac mae'n bosibl mai dyna a geir yn yr enw "City". Boed hynny fel y bo, ni cheir enw Cymraeg cydnabyddedig ar y pentref.
Does dim siopau yn City heddiw. Bu yno dafarn y City Inn ond mae wedi cau rwan. Ceir neuadd pentref.
Cyfeiriadau