Pentref bychan yng nghymuned y Bont-faen a Llanfleiddan, Bro Morgannwg, Cymru, yw Aberthin.[1][2] Saif tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Bont-faen ar ffordd yr A4222 rhwng y Bont-faen a Llantrisant. Ymddengys fod yr enw yn dod o enw'r ffrwd Nant y Berthin sy'n rhedeg heibio i'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[4]
Cyfeiriadau