Aberogwr

Aberogwr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.464°N 3.635°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJane Hutt (Llafur)
AS/au y DUAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map

Pentref glan-môr yng nghymuned Saint-y-brid, Bro Morgannwg, Cymru, yw Aberogwr[1] (Saesneg: Ogmore-by-Sea).[2] Gorwedd tua 3 milltir i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr ger aber Afon Ogwr ym Môr Hafren.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[4]

Yr arfordir

Mae'r traeth, sy'n dywodlyd pan fo'r llanw allan, yn cynnig golygfa dros Graig y Sger allan yn y môr ac i arfordir Dyfnaint a Gwlad yr Haf ar dywydd braf. Ar ochr arall yr aber gellir gweld tywynod Merthyr Mawr. Mae'r arfordir creigiog yn atynnu dringwyr a cheir nifer o ffosilau yn y graig.

Bu'r arfordir hwn yn ddrwgenwog am longdrylliadau yn y gorffennol. Aeth nifer o longau i ddinistr ar Graig y Sger, crib isel o gerrig ysgythrog a orchuddir gan y môr pan fo'r llanw i mewn. Ar un adeg bu Aberogwr yn un o'r llefydd yng Nghymru lle arferai rhai o'r trigolion gamarwain llongau trwy chwifio llusernau a'u harwain felly i longdryllio ar y cregiau er mwyn eu hysbeilio.

Traeth Aberogwr, uwchben y tywod



Golygfa ar draws y traeth




Cyfeiriadau

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 26 Ebrill 2023
  2. British Place Names; adalwyd 25 Ebrill 2023
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!