Cerbyd ofodrobotaidd oedd Cassini-Huygens a anfonwyd i’r blaned Sadwrn trwy gydweithrediad NASA (Asiantaeth Ofod Gogledd America) , ESA (Asiantaeth Ofod Ewrop) ac Asiantaeth Gofod yr Eidal. Fe’i lansiwyd ar 15Hydref, 1997 ar gerbyd Titan IV-B/Centaur o Safle Lansio 40 yn Cape Canaveral, Fflorida[1].
Cefndir
Cassini oedd y bedwaredd cerbyd ofod i gyrraedd Sadwrn, a’r gyntaf i gylchdroi o’i chwmpas. Ymunodd a’r cylchdro ar 1Gorffennaf2004. Ar 14Ionawr2004 glaniodd y glaniwr Huygens ar wyneb y lleuad Titan. Oddi yno anfonodd lluniau a gwybodaeth am y lleuad honno. Hwn oedd y glaniad gyntaf yn rhan allanol Gyfundrefn yr Haul, a’r glaniad gyntaf ar leuad heblaw am leuad y Ddaear. Cyflawnodd Cassini mesuriadau ac arsylliadau lu (635 GB o ddata[2]), gan dynnu 453,048 o luniau[2][3]. Wrth i’w danwydd lliwio (yn hytrach na’r tanwydd Plwtoniwm a oedd yn ffynhonnell ei drydan) dod i ben penderfyniad y tîm rheoli oedd gorffen y daith trwy blymio Cassini i awyrgylch Sadwrn, lle’i darniwyd yn llwyr ar 15Medi2017[4][5].
Yn ogystal â galluogi mesuriadau o awyrgylch Sadwrn, diben hyn oedd cadw unrhyw lygredd biotig a allasai fod ar y cerbyd rhag cyrraedd a llygru lleuadau Sadwrn (Enceladws a Titan yn arbennig) lle, o bosib, mae bywyd cyntefig yn bodoli.
Uchafbwyntiau’r Daith
Erbyn haf 2008, terfyn wreiddiol y prosiect, roedd wedi cyflawni ei dyletswyddau gwreiddiol, ac roedd Huygens wedi glanio’n llwyddiannus ar y lleuad Titan a darlledu cannoedd o luniau ohono. Yn 2008, ac eto yn 2010 , estynnwyd arianni (ac felly oes) y prosiect.
Gwnaeth Cassini fyrdd o ddarganfyddiadau a champau cyn ac ar ôl 2008[7]. (Ymwelwch â gwefan NASA i weld detholiad o’r lluniau[3] anhygoel.) Daeth o hyd i saith lleuad newydd (bellach mae 53 ag iddynt enwau) a manylu ar y rhai cyfarwydd (gan gynnwys darganfod llynnoedd hydrocarbon ar Titan), mesurodd hyd diwrnod ar Sadwrn (deg awr a thri-chwarter) a disgrifiodd stormydd a chorwyntoedd yn ei chymylau nas gwelwyd eu bath o’r blaen y tu hwnt i’r ddaear. Yn 2003 gwnaed arbrawf a gadarnhaodd ddamcaniaeth gyffredinol perthnaseddEinstein wrth i ddarllediadau Cassini blygu wrth fynd heibio’r haul ar eu trywydd hir yn ôl i’r ddaear. Un o uchafbwyntiau’r daith yw’r hyn a ddarganfuwyd ar y lleuad Enceladus. Yn 2005, canfuwyd awyrgylch tenau a geiserau o ddŵr yn tasgu iddo. Yn 2008 (ac eto yn 2015), mewn gweithredoedd sy’n adlewyrchu manylder y daith, bu modd i’r goden hedfan drwy un o’r geiserau, prin 30 milltir uwchben wyneb y lleuad, a dadansoddi’r dŵr a’r hydrocarbonau oedd ynddo. Erbyn 2015 roedd Cassini wedi casglu digon o ddata i ganiatáu i NASA gyhoeddi bod wyneb rhewllyd Enceladus yn arnofio ar gefnfor hylif hallt sy’n gorchuddio’r holl leuad. Yn ddiau, dyma un o’r safleoedd mwyaf gobeithiol o ran darganfod bywyd y tu hwnt i’r ddaear.
Nofel
Yn 2006 cyhoeddwyd nofel Mr Cassini gan Lloyd Jones. Defnyddia’r awdur delwedd taith llong ofod Cassini fel un o themâu’r nofel a enillodd wobr Llyfr Cymru’r Flwyddyn (Saesneg) 2007[8].