Agoriad ar arwyneb y tir, mewn ardal folcanig fyw, yw geiser, lle mae colofn o ddŵr berwedig yn cael ei hyrddio allan ohono yn ysbeidiol.
Wrth ddod i gysylltiad â chreigiau poeth, mae'r dŵr daear yn ddwfn o dan yr agoriad ac ar waelod y golofn ddŵr yn cyrraedd y berwbwynt cyn y dŵr ym mhen uchaf y golofn. Yna, mae'r swigod sy'n codi tua'r wyneb o'r dŵr berwedig yn peri i'r gwasgedd ar waelod y golofn ostwng, ac mae hyn yn ei dro yn achosi i'r golofn ddŵr yn ei chyfanrwydd draphoethi ac echdorri, gan hyrddio'r golofn o ddŵr berw i'r awyr.[1]
Mae dros fil o eiserau yn bodoli ledled y byd. Mae o leiaf 1,283 geiserau wedi ffrwydro yn Parc Cenedlaethol Yellowstone, Wyoming,Gogledd America.