Cyfnod daearegol rhwng y cyfnodau Defonaidd a Phermaidd yw'r cyfnod Carbonifferaidd. Dechreuodd tua 280 miliwn o flynyddoedd yn ôl a gorffennodd tua 340 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Enwyd ar ôl yr haenau glo helaeth sy'n nodweddiadol o'r cyfnod hwn.
Ffurfiwyd y glo trwy'r fforestydd glo eang gyda phlanhigion mawr a oedd yn tyfu mewn ardaloedd gorslyd.
Yn ystod yr Oes Garbonifferaidd roedd yr uwchgyfandir deheuol, Gondwana, yn gwrthdrawio â'r uwchgyfandir Laurasia, sef America ac Ewrop.