Cwrel

Cwrel
Cwrel piler, Dendrogyra cylindricus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Cnidaria
Dosbarth: Anthozoa
Ehrenberg, 1831
Urddau ac Is-ddorbarthiadau

Octocorallia [1]
 Alcyonacea
 Helioporacea
 Pennatulacea
Hexacorallia [2]
 Actiniaria
 Antipatharia
 Corallimorpharia
 Scleractinia
 Zoantharia

Infertebratau morol yn y dosbarth Anthozoa o'r ffylwm Cnidaria. Fel arfer maen nhw'n byw mewn cytrefi, gyda phob unigolyn yn goiau perffaith o'i gilydd, a elwir yn ‘polypiaid’, sy'n ddim mwy nag ychydig genitmetrau ac sy'n debyg i sach bychan o ran ei siap. Mae'r grŵp yn cynnwys adeiladwyr y rîff gwrel (hefyd creigres gwrel) a geir yng nghefnforoedd y trofannau, sy'n secretu (neu'n 'poeri') calsiwm carbonad sy'n caledu'n ysgerbwd. Mae gan y cwrel hwn dentaclau o gwmpas ei geg.

Dros genedlaethau lawer, mae'r cytrefi hyn yn ffurfio'n un ysgerbwd mawr, ac mae hyn yn nodweddiadol o'r rhywogaeth hon. Creir y pennau bychan drwy i'r polypiaid atgenhedlu anrhywiol. Mae cwrel hefyd yn atgenhedlu'n rhywiol drwy silio (spawn): mae polypiaid o'r un rhyw yn gollwng gametau ar yr un pryd dros gyfnod o tua 24 awr, pan fo'r lleuad yn llawn.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Hoeksema, Bert (2015). "Octocorallia". World Register of Marine Species. Cyrchwyd 2015-04-24.
  2. Hoeksema, Bert (2015). "Hexacorallia". World Register of Marine Species. Cyrchwyd 2015-04-24.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!