Cyfnod daearegol rhwng y Cyfnod Silwraidd a'r Cyfnod Carbonifferaidd roedd y Cyfnod Defonaidd. Dechreiodd tua 360 miliwn o flynyddoedd yn ôl a daeth i ben tua 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Enwyd ar ôl Dyfnaint yn Lloegr.
Yn ystod y Defonaidd, roedd Uwchgyfandir Gondwana yn y De a cyfandir mawr yn cynnwys Gogledd America ac Ewrop (Ewramerica) ger y cyhydedd. Roedd gwedill yr Ewrasia fodern yn y Gogledd. Roedd lefel y môr yn uchel iawn gyda môr bas yn gorchuddio Ewramerica, cyfandir lle bu llawer o newid. Am fod yr hinsawdd yn boeth iawn, dywed rhai gwyddonwyr mai "Cyfnod Tŷ Gydr" ydoedd.
Ffurfiwyd yr Hen Dywodfaen Coch o waddodion afonydd yn ystod y Defonaidd. Mae ffosilau'r cyfnod yn cynnwys y planhigion hâd cyntaf a'r amffibiaid cynharaf.