Sylfaenydd chwedlonol Thebai Boeotia ym mytholeg Roeg oedd Cadmos (Hen Roeg: Κάδμος). Gyda Perseus a Bellerophon, ef oedd yr arwr a'r lladdwr anghenfilod
| Enghraifft o: | cymeriad chwedlonol Groeg, sefydlydd chwedlonol |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0j_cs |
| Quora | Cadmus |
Sylfaenydd chwedlonol Thebai Boeotia ym mytholeg Roeg oedd Cadmos (Hen Roeg: Κάδμος). Gyda Perseus a Bellerophon, ef oedd yr arwr a'r lladdwr anghenfilod mwyaf llwyddiannus cyn dyddiau Heracles.[1] Derbynir hefyd, yn gyffredinol, ei fod yn dywysog Ffenicia,[2] a mab y brenin Agenor a'r frenhines Telephassa o Tyrus, brawd Phoenix, Cilix ac Europa. Gallai olrhain ei wreiddiau yn ôl i Poseidon a Libya .
Yn wreiddiol, cafodd ei anfon gan ei rieni brenhinol i chwilio a hebrwng ei chwaer Ewropa yn ôl i Tyrus ar ôl iddi gael ei herwgipio o lannau Ffenicia gan Zews.[3] Dywed rhai mai plant Ffenics (fab Agenor) oedd Cadmos ac Ewropa.[4] Sefydlodd neu ailsefydlodd Cadmos ddinas Roegaidd Thebai, ac yn wreiddiol, fe 'elwid ei hacropolis yn Cadmeia er anrhydedd iddo.
Caiff hefyd y clod am sefydlu sawl dinas yn Illyria, fel Budva [Bouthoe] ac Ohrid [Lychnidus]. Mewn llenyddiaeth Roeg hynafol, mae diwedd naratif chwedlonol Cadmos a Harmonia yn gysylltiedig â chweldau pobloedd Enchelei a'r Illyriaid.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.