Cerdd ddramataidd gan William Williams (Pantycelyn) yw Bywyd a Marwolaeth Theomemphus, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1764. Ystyr yr enw Lladin Theomemphus yw "Ymofynnwr Duw." Mae'n gerdd hir o dros 6,000 o linellau sy'n olrhain pererindod ysbrydol dyn i'w droedigaeth yn Gristion ac mae i'w deall yng nghyd-destun y Diwygiad Methodistaidd yn 18g.[1]
Mae'r gerdd yn agor gyda Theomemphus yn ddyn ifanc rhyfygus sy'n arwain bywyd pechadurus. Mae'n sylweddoli ei bechod, yn ceisio ac yn derbyn maddeuant, ac wedyn yn gwrthgilio oherwydd temtasiwn y ferch 'Philomela' (sy'n cynrychioli pleserau'r byd) cyn "dychwelyd" ac aros yn ffyddlon hyd ei ddiwedd er gwaethaf lu o orthrymderau.[1]
Yn ôl Saunders Lewis yn ei lyfr ar Bantycelyn, mae'r gerdd hon yn dangos pa mor "ryfeddol o ddieithr" oedd y defnydd a wnaeth Pantycelyn o farddoniaeth.[2] Ym marn yr hanesydd llenyddiaeth Thomas Parry, yn y gerdd mae Pantycelyn yn "ei brofi ei hun yn sylwedydd craff a chywir ar symudiadau'r meddwl dynol." Ond mae'n ychwanegu hefyd "bod mesur rhigymaidd Theomemphus yn flinderus ac undonog."[3]
Gweler ymateb Emyr James i Theomemphus yma: https://www.youtube.com/watch?v=-417mK_LvPg
Roedd Theomemphus yn llyfr pur boblogaidd yn ail hanner 18g a'r 19eg ganrif, yn enwedig gyda Ymneilltuwyr. Cafwyd sawl argraffiad newydd.
Ysgrifennodd Dafydd Rowlands y nofel arbrofol Mae Theomemphus yn Hen (1977); mae'r teitl yn adlais o gerdd Pantycelyn.