Bronfraith gymharol fawr yw'r Brych gyddfddu (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: brychion gyddfddu) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus ruficollis atrogularis; yr enw Saesneg arno yw Black-throated thrush. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru. Caidd ei ystyried weithiau gan naturiaethwyr fel isrywogaeth, ac felly hefyd ei chwaer, sef y Brych gyddfgoch (Turdus ruficollis ruficollis),[2] ond yn ddiweddar mae'r mwyafrif o naturiaethwyr yn eu cyfrif yn rhywogaethau ar whahân.[3]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. ruficollis atrogularis, sef enw'r rhywogaeth.[4] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Mae'n aderyn mudol, gyda'i diriogaeth yn debyg iawn i'w chwaer, y Brych gyddfgoch (Turdus ruficollis ruficollis).
Disgrifiad
Mae'n fronfraith gymharol fawr sy'n ddigon hawdd i'w hadnabod. Mae gan y gwryw fron ddu - o'i ên i waelod ei frest, gyda chynffon llwyd-ddu. Mae'r rhan uchaf hefyd yn llwyd a'r rhan isaf yn wyn gyda'r adain oddi tanynt yn orengoch.
Cynefin
Mae'r Brychion gyddfddu'n paru ar fin ac ar ffiniau coedwigoedd, llannerch goediog - yn enwedig codwig gydag amrywiaeth o goed collddail. Yn aml, gwnant eu nyth ym mhrysgwydd sef yr isdyfiant y Pinus sibirica neu'r befrwydden, yn enwedig wrth ymyl tir corsiog a llynnoedd bychan.
Teulu
Mae'r brych gyddfddu yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Safonwyd yr enw Brych gyddfddu gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.