Roedd Biwmares yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1541 hyd at 1885. Rhwng 1541 a 1553 Niwbwrch oedd bwrdeistref Seneddol Môn.[1].
Dim ond y 24 prif fwrdeisiwr o dref Biwmares oedd a hawl i bleidleisio hyd 1832. O dan Ddeddf diwygio’r Senedd 1832 cynyddodd nifer y pleidleiswyr i 218 gan gynnwys etholwyr o Amlwch, Caergybi a Llangefni. Diddymwyd yr etholaeth ym 1885 gan ei uno a gweddill Sir Fôn gan dorri nifer cynrychiolwyr yr ynys i un.
Dim ond dau etholiad cystadleuol a gynhaliwyd yn yr etholaeth trwy ei holl hanes sef ym 1868 a 1874 ac yn y ddau bu aelodau o'r Blaid Ryddfrydol yn ymladd yn erbyn ei gilydd.
Nifer yr etholwyr 1,944