Frederick Paget |
---|
|
Ganwyd | 9 Mawrth 1807 |
---|
Bu farw | 4 Ionawr 1866 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd |
---|
Swydd | Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig |
---|
Tad | Berkeley Paget |
---|
Mam | Sophia Askell Paget |
---|
Priod | Maria Georgiana Grenfell |
---|
Roedd y Cyrnol Frederick Paget (9 Mawrth 1807 – 4 Ionawr 1866) yn filwr ac yn wleidydd Cymreig.[1]
Cefndir
Roedd y Cyrnol Paget yn fab i'r Anrhydeddus Berkeley Paget, a Sophia, merch y Anrhydeddus William Bucknall. Roedd yn nai i Henry William Paget, Ardalydd 1af Môn ac i Syr Arthur Paget, Syr Edward Paget a Syr Charles Paget.[2]
Gyrfa filwrol a gwleidyddol
Gwasanaethodd Paget yn Gwarchodlu'r Coldstream. Ym 1832 cafodd ei ddychwelyd i'r senedd fel cynrychiolydd Biwmares, gan dal y sedd hyd 1847 pan gafodd ei olynu gan ei gefnder yr Arglwydd George Paget.
Bywyd personol
Priododd Paget a Maria Georgiana, merch Charles Grenfell, ym 1856[3]. Bu ef farw ym mis Ionawr 1866 yn 58 mlwydd oed. Bu farw ei wraig ym 1900.
Cyfeiriadau