sedd y llywodraeth, metropolis, Einheitsgemeinde yr Almaen, dinas Hanseatig, bwrdeistref trefol yr Almaen, tref wedi'i rhannu gan ffin, dinas-wladwriaeth, independent city in Berlin, y ddinas fwyaf, dinas fawr, taleithiau ffederal yr Almaen, prifddinas ffederal, tref wedi'i rhannu gan ffin
Prifddinasyr Almaen a dinas fwyaf Gorllewin Ewrop yw Berlin, gydag oddeutu 3,782,202 (31 Rhagfyr 2023) o drigolion.[1] Mae'n sefyll ar lannau afonydd Spree ac Havel yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Yn un o 16 talaith gyfansoddol yr Almaen, mae Berlin wedi'i hamgylchynu gan dalaith Brandenburg, ac yn uno gyda Potsdam, prifddinas Brandenburg. Mae gan ardal drefol Berlin boblogaeth o oddeutu 4.5 miliwn a hi yw'r ail ardal drefol fwyaf poblog yn yr Almaen ar ôl y Ruhr.[2] Mae gan brifddinas-ranbarth Berlin-Brandenburg oddeutu chwe miliwn o drigolion a hi yw trydydd rhanbarth metropolitan mwyaf yr Almaen ar ôl rhanbarthau Rhine-Ruhr a Rhine-Main.[3]
Mae Berlin yn pontio glannau Afon Spree, sy'n llifo i mewn i Afon Havel (llednant Afon Elbe) ym mwrdeistref orllewinol Spandau. Ymhlith prif nodweddion topograffig y ddinas mae'r nifer o lynnoedd yn y bwrdeistrefi gorllewinol a de-ddwyreiniol a ffurfiwyd gan afonydd Spree, Havel a Dahme (y mwyaf ohonynt yw Llyn Müggelsee). Oherwydd ei leoliad yn y Gwastadedd Ewropeaidd, caiff Berlin hinsawdd dymhorol dymherus. Mae tua thraean o ardal y ddinas yn cynnwys coedwigoedd, parciau, gerddi, afonydd, camlesi a llynnoedd.[4] Gorwedd y ddinas yn ardal dafodiaith Canol yr Almaen, gyda thafodiaith Berlin yn amrywiad o'r tafodieithoedd a elwir yn "Lusatian-New Marchian".
Cofnodwyd Berlin fel anheddiad dynol yn gyntaf yn y 13g: mae ei safle ar groesfan rhwng dau lwybr masnach hanesyddol pwysig.[5] Daeth Berlin yn brifddinas Margraviate Brandenburg (1417–1701), Teyrnas Prwsia (1701-1918), Ymerodraeth yr Almaen (1871 –1918), Gweriniaeth Weimar (1919–1933), a'r Drydedd Reich (1933–1945).[6] Berlin yn y 1920au oedd y drydedd fwrdeistref fwyaf yn y byd.[7] Ar ôl yr Ail Ryfel Byd a'i meddiant dilynol gan y gwledydd buddugol, rhannwyd y ddinas: daeth Gorllewin Berlin yn diriogaeth de facto yng Ngorllewin yr Almaen, wedi'i amgylchynu gan Wal Berlin (1961-1989) a thiriogaeth Dwyrain yr Almaen. Cyhoeddwyd bod Dwyrain Berlin yn brifddinas Dwyrain yr Almaen, tra daeth Bonn yn brifddinas Gorllewin yr Almaen. Yn dilyn ailuno'r Almaen ym 1990, daeth Berlin yn brifddinas yr Almaen gyfan unwaith eto.[8]
Mae Berlin yn ddinas a gaiff ei chydnabod yn fyd-eang am ei diwylliant, ei gwleidyddiaeth, ei chyfryngau a'i gwyddoniaeth.[9][10][11][12] Mae ei heconomi yn seiliedig ar gwmnïau uwch-dechnoleg a'r sector gwasanaethau, gan gwmpasu ystod amrywiol o ddiwydiannau creadigol, cyfleusterau ymchwil, corfforaethau cyfryngau a lleoliadau addas ar gyfer cynadleddau enfawr.[13][14] Mae Berlin yn gweithredu fel canolbwynt cyfandirol ar gyfer traffig awyr a rheilffordd ac mae ganddi rwydwaith cludiant cyhoeddus cymhleth ac effeithiol iawn. Mae'r metropolis yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ceir diwydiannau arwyddocaol hefyd gan gynnwys TG, fferyllol, peirianneg fiofeddygol, technoleg lân, biotechnoleg, adeiladu ac electroneg.
Gwleidyddiaeth
Ar ôl bod yn rhan o'r Mark Brandenburg, daeth Berlin yn dalaith ei hun ym 1920. Michael Müller yw'r Regierender Bürgermeister ("maer llywodraethol") ar hyn o bryd. (Gweler Meiri Berlin).
Hyd 1 Ionawr2001 roedd 23 bwrdeistref yn y dref ond nawr does ond 12.
Hanes
Sefydlwyd y dref tua 1200, ond roedd hi'n dwy dref ar y bryd: Berlin a Cölln. Daethon nhw yn un dref ym 1307. Beth bynnag, er fod Berlin yn dref eithaf hen, mae'n bennaf olion y deunawfed ganrif i'w weld.
Syrthiodd y mur ar 9 Tachwedd, 1989. Erbyn uniad yr Almaen y flwyddyn ddilynol doedd dim ond o olion y mur i'w weld.
Geirdarddiad
Tardd yr enw 'Berlin' yn iaith trigolion Slafiaid Gorllewinol a drigant yn yr ardal ym, a gall yr enw fod yn gysylltiedig â choesyn yr hen iaith, Polabieg, berl- / birl- (sef "cors"). Gan fod y Ber- ar y dechrau yn swnio fel y gair Almaeneg Bär (arth), mae arth yn ymddangos yn arfbais y ddinas.[15]
↑"Niederlagsrecht" [Settlement rights] (yn Almaeneg). Verein für die Geschichte Berlins. Awst 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2015.