Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury |
---|
Engrafiad o Iarll Shaftesbury gan Simon Gribelin (tua 1702–11) o bumed argraffiad Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times (1732) |
Ganwyd | 26 Chwefror 1671 Llundain |
---|
Bu farw | 4 Chwefror 1713 Napoli |
---|
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr, Teyrnas Prydain Fawr |
---|
Alma mater | - Coleg Caerwynt
|
---|
Galwedigaeth | athronydd, llenor, gwleidydd |
---|
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1695-98 Parliament |
---|
Prif ddylanwad | Cambridge Platonists, Damaris Cudworth Masham, John Locke |
---|
Tad | Anthony Ashley-Cooper |
---|
Mam | Dorothy Ashley-Cooper |
---|
Priod | Jane Ewer |
---|
Plant | Anthony Ashley-Cooper |
---|
Gwleidydd ac athronydd o Loegr yng nghyfnod yr Oleuedigaeth oedd Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury (26 Chwefror 1671 – 15 Chwefror 1713) sydd yn nodedig fel un o ddeistiaid blaenaf y 18g ac am ei athroniaeth foesol.
Ganed yn Exeter House yn y Strand, Llundain. yn fab i Anthony Ashley-Cooper (yn ddiweddarach 2il Iarll Shaftesbury) a Dorothy Manners, merch Iarll Rutland. Ar gais ei dad-cu, Iarll 1af Shaftesbury, derbyniodd ei addysg gynnar dan gyfarwyddyd John Locke. Cyflogwyd athrawes o'r enw Elizabeth Birch gan Locke i diwtora Anthony, ac erbyn 12 oed roedd yn gallu darllen yr ieithoedd Lladin a Groeg yn hawdd. Wedi marwolaeth Iarll 1af Shaftesbury, mynychodd Anthony Goleg Caerwynt, ac yno cafodd ei fwlio, o bosib oherwydd taliadau Chwigaidd ei ddiweddar tad-cu. Wedi tair blynedd yn yr ysgol, llwyddodd i ddwyn perswâd ar ei dad i adael iddo deithio, ac aeth ar grwydr yn Ewrop gyda'i diwtoriaid a dau gyfaill o 1686 i 1689.[1]
Wedi iddo ddychwelyd i Loegr, cynigwyd iddo sedd yn Senedd Lloegr, ond daliodd at ei astudiaethau am y tro. Etholwyd yn Aelod Seneddol i'r Chwigiaid ym 1695, ac yn ei swydd dadleuodd dros achos rhyddid ac hawliau'r cyhuddiedig. O ganlyniad i'w asthma, a waethygwyd gan yr hinsawdd Lundeinig, ymddiswyddodd o'i sedd ym 1698 ac aeth i Holand am sawl mis. Yn sgil marwolaeth ei dad ym 1699, etifeddodd yr iarllaeth ac esgynnodd Shaftesbury i Dŷ'r Arglwyddi. Cynigwyd iddo swydd Ysgrifennydd y Wladwriaeth gan y Brenin Wiliam III, ond eto bu'n rhaid i Shaftesbury wrthod oherwydd ei afiechyd. Yr unig safle swyddogol iddo ddal oedd Is-lyngesydd Swydd Dorset,[1] ond collodd y swydd honno wedi i'r Frenhines Ann esgyn i'r orsedd ac ymddeolodd Shaftesbury o fyd gwleidyddiaeth yng Ngorffennaf 1702.[2]
Ymroddai Shaftesbury i'w astudiaethau, er gwaethaf ei afiechyd, a chynhyrchai ysgrifau ar amryw bynciau dros gyfnod o ddeuddeng mlynedd wedi iddo etifeddu teitl ei dad. Ymhlith y rheiny mae "An Inquiry concerning Virtue or Merit" (1699), "A Letter concerning Enthusiasm" (1708), "Sensus Communis, an Essay on the Freedom of Wit and Humour" (1709), "The Moralists, a Philosophical Rhapsody" (1709), a "Soliloquy, or Advice to an Author" (1710). Cesglid ei draethodau mewn tair cyfrol dan y teitl Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times ym 1711, gyda chyflwyniad gan yr awdur.
Priododd Shaftesbury â Jane Ewer ym 1709, a chawsant un mab ym 1711. Gadawodd Loegr ym 1711 i geisio gwella'i iechyd mewn gwlad dymherus. Ymsefydlodd Shaftesbury yn Napoli, Teyrnas Napoli, ac yno bu farw yn 41 oed.[1][2]
Cyfeiriadau