Amgueddfa ac oriel celf wedi'i lleoli ar ddau gampws (y Getty Center a'r Getty Villa) yng Nghaliffornia yw Amgueddfa J. Paul Getty (Saesneg: J. Paul Getty Museum neu The Getty). Lleolir y Getty Center, y prif safle, yn yr ardal Brentwood yn Los Angeles; mae ganddo gasgliad o gelf y Gorllewin o'r Canol Oesoedd hyd heddiw. Lleolir y Getty Villa ym Malibu; mae ganddo gasgliad of gelf o Groeg yr Henfyd, Rhufain hynafol ac Etruria.