Ffilm ffantasi antur o'r Unol Daleithiau o 2016 yw Alice Through the Looking Glass a gyfarwyddwyd gan James Bobin, ysgrifennwyd gan Linda Woolverton a cynhyrchwyd gan Tim Burton, Joe Roth, Suzanne Todd a Jennifer Todd. Mae'n seiliedig ar y cymeriadau a grewyd gan Lewis Carroll ac yn ddilyniant i'r ffilm Alice in Wonderland a ryddhawyd yn 2010. Mae'r ffilm yn serennu Johnny Depp, Anne Hathaway, Mia Wasikowska, Matt Lucas, Rhys Ifans, Helena Bonham Carter a Sacha Baron Cohen ac yn cynnwys lleisiau Stephen Fry, Michael Sheen, Timothy Spall ac Alan Rickman, yn ei ran ffilm olaf.
Yn y ffilm, mae Alice yn dod o hyd i ddrych hudol sy'n ei chymryd nôl i Wlad Hud, lle mae'n canfod yr Hetiwr Gwallgof yn ymddwyn yn fwy gwallgof nac erioed ac yn eisiau darganfod y gwir am ei deulu. Mae Alice wedyn yn teithio drwy amser (gyda'r "Cronosffêr"), yn gweld ffrindiau a gelynion ar adegau gwahanol o'u bywydau, ac yn cychwyn ar ras i achub yr Hetiwr cyn i amser redeg allan.
Dangoswyd y ffilm gyntaf yn Llundain ar 10 Mai 2016 a fe'i ryddhawyd yn y sinemâu gan Walt Disney Pictures ar 27 Mai 2016. Cafodd y ffilm adolygiadau gwael gan y beirniaid ac ystyriwyd nad oedd wedi llwyddo cystal o ran gwerthiant tocynnau oherwydd y gymhariaeth gyda llwyddiant y ffilm gyntaf.