Ffilm ffantasi Americanaidd cyfarwyddwyd gan Tim Burton, ysgrifennwyd gan Linda Woolverton ac yn serennu Mia Wasikowska, Johnny Depp, Helena Bonham Carter, Anne Hathaway, Crispin Glover, Michael Sheen, a Stephen Fry, rhyddhawyd gan Walt Disney Pictures, yw Alice in Wonderland. Estyniad o'r nofelau Alice's Adventures in Wonderland a Through the Looking-Glass gan Lewis Carroll yw'r ffilm,[4] a defnyddir ffilm ffilm-go-iawn ac animeiddiad 3D gyda'i gilydd.
Yn y ffilm, mae Alice yn 19 oed a dychwela hi, trwy ddamwain, i Underland (meddylia Alice mai Wonderland yw'r enw lle), daeth hi i'r lle hwn dair blynedd ar ddeg yn flaenorol. Dywedir Alice ei bod hi'n yr unig un sy'n gallu lladd y Jabberwocky, creadur draig-esque a rheolir gan y Frenhines Goch sy'n brawychu'r trigolion Underland. Dywedodd Burton roedd y stori wreiddiol Wonderland am ferch sydd wedi crwydro o gwmpas a wedi cwrdd â chymeriadau od a does dim perthynas rhwng y stori a'i hun felly oedd ei eisiau creu stori yn hytrach na gyfres digwyddiadau. Sgriniwyd y ffilm yn gyntaf ar Chwefror 25, 2010 yn Odeon Leicester Square, Llundain. Rhyddhawyd y ffilm wedyn yn Awstralia ar 4 Fawrth 2010, yn yr UDA a'r DU ar Fawrth 5 2010 trwy IMAX 3D a Disney Digital 3D, yn ogystal â sinemâu traddodiadol.
Treuliodd y Alice in Wonderland tair wythnos fel y ffilm rhif un yn America a Chanada a mae'n yr ail ffilm mwyaf llwyddiannus yn ariannol yn rhyngwladol, y chweched ffilm mwyaf llwyddiannus erioed.[5] Hefyd, y chweched ffilm i ennill mwy na $1 biliwn yw'r ffilm.[6]
Cymeriadau
- Mia Wasikowska fel Alice Kingsleigh
- Johnny Depp fel Tarrant Hightopp, y Mad Hatter (y Hetiwr Gwallgof)
- Helena Bonham Carter fel Iracebeth, The Red Queen (cyfuniad y Frenhines y Calonnau o Alice's Adventures in Wonderland a'r Frenhines Goch o Through the Looking-Glass)
- Anne Hathaway fel Mirana, The White Queen (Y Frenhines Wen)
- Crispin Glover fel Ilosovic Stayne, Knave of Hearts (Jac y Calonnau)
- Matt Lucas fel Tweedledee a Tweedledum
- Michael Sheen fel Nivens McTwisp, y White Rabbit (y Gwningen Wen)
- Alan Rickman fel Absolem, y Caterpillar (y Lindysyn)
- Barbara Windsor fel Mallymkun, y Dormouse (y Pathew)
- Stephen Fry fel Chessur, y Cheshire Cat (y Gath Swydd Gaer)
- Paul Whitehouse fel Thackery Earwicket, y March Hare (y Sgwarnog Fawrth)
- Timothy Spall fel Bayard, gwaetgi
- Michael Gough fel Uilleam, y Dodo
- Christopher Lee fel y Jabberwocky
- Imelda Staunton fel y blodau siarad
- Leo Bill fel Hamish Ascot, bachgen arglwydd sydd eisiau priodi Alice
- Frances de la Tour fel Imogene, modryb i Alice
Cyfeiriadau
Alys gan Lewis Carroll |
---|
| Testunau | | | Awduron | | | Darlunwyr | | | Cymeriadau | Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud | | | Trwy'r Drych | |
| | Cerddi (Saesneg) | | | Pynciau cysylltiedig | | | Addasiadau | Dilyniannau | | | Ail-ddweud Alys | | | Parodïau | | | Ail-wneud Alys | | | Ffilmiau | |
|
|