Gêm fideo i Microsoft Windows, PlayStation 3, ac Xbox 360 yw Alice: Madness Returns. Cynlluniodd McGee, dylunydd y gêm gwreiddiol, y dilyniant hwn ar ôl i EA ddod yn bartner i stiwdio McGee, Spicy Horse. Ar 20 Ebrill 2011, cadarnhaodd EA sïon y byddent yn rhyddhau cod lawrlwytho gyda'r gêm i ddarparu cyrchiad i'r gêm gwreiddiol. Gall pobl heb y cod lawrlwytho'r gêm trwy'r prif ddewislen Madness Returns am 800 Microsoft Points ar Xbox Live neu $9.99 ar PlayStation Network.[1] Rhyddhawyd Alice: Madness Returns ar 14 Mehefin 2011 yng Ngogledd America[2] ac ar 16 Mehefin 2011 yn Ewrop.[3]