Mae Alan Holmes yn gerddor, cynhyrchydd recordio, trefnydd cyngherddau ac arlunydd wedi'i leoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.
Mae wedi bod yn aelod o grwpiau di-ri yn ardal Bangor a llawer iawn o brosiectau cerddorol a threfnydd o gyngherddau am dros 30 mlynedd.
Bywgraffiad
Ei grŵp cyntaf oedd band bît The Insects tra'n blentyn yn y 60au. Ym 1979 ffurfiodd The Zuggs a wedyn A Silly Tree. Ym Magor yn 1980 gweithiodd gyda'i ffrind Brian Williams sydd, o dan yr enw Lustmord, bellach yn gyfansoddwyr i ffilmiau a sylfaenydd y genre dark ambient.
Label Central Slate
Ar ddechrau'r 80au fu'n aelod o The Pinecones, Reinheitsgebot, Third Spain a The Lungs a sefydlodd y label Central Slate a rhyddhaodd dros ddwsin o recordiadau yn cynnwys y grwpiau Cymraeg Pop Negatif Wastad a Rheinallt H Rowlands.
Fflaps
Ar ddiwedd y 1980au ffurfiodd Fflaps - grŵp arloesol post-pync Cymraeg a fu'n un o'r grwpiau iaith Gymraeg cyntaf i chwarae'n gyson tu allan i Gymru gan deithio'n aml o amgylch gwleidydd Prydain a'r cyfandir. Recordiwyd dau sesiwn i raglen radio John Peel ar BBC Radio 1. Roedd Fflaps hefyd yn un o'r grwpiau Cymraeg cyntaf i gael eu hyrwyddo i gwmni recordiau tu allan i Gymru – 'Probe Plus' o Lerpwl.[1]
Rheinallt H Rowlands
Ym 1990 fe wahoddwyd y label Recordiau Ankst nifer o grwpiau Cymraeg i recordio fersiynnau newydd o ganeuon record hir 1979 Geraint JarmanHen Wlad fy Nhadau ar gyfer albwm teyrnged aml-gyfrannog.[2] Yn anhapus nad oedd ei grŵp Y Fflaps wedi'i wahodd i gyfrannau, penderfynodd Alan Holmes ryddhau ei albwm aml-gyfrannog ffug ei hunain i ddychanu ymdrechion Ankst. Recordiwyd Hen Wlad y Lladd-dai ar offer elfennol yn ei sied ym Mhorthaethwy gyda Holmes yn chwarae llawer o'r traciau gan ddewis arddulliau cwbl wahanol i'r gwreiddiol – er enghraifft mae'r gân Steddfod yn y Ddinas, cân reggae ar albwm gwreiddiol Jarman, yn cael ei dro'n gân death metal.
Gofynodd Owain Wright a Dewi Evans recordio fersiwn o'r gân Ethiopia Newydd yn steil Scott Walker neu 'crooner' 1950iadd. Dyfeisiwyd enwau grwpiau dychmygol ar gyfer pob un o'r traciau, yn cynnwys: Y Dyfrgwn, Mudiad Moes a Symffonia Waunfawr. Ar gyfer trac Ethiopia Newydd fe roddwyd yr enw Rheinallt H Rowlands.
Llwyddodd Holmes gwblhau Hen Wlad y Lladd-dai a chael y casetiau ar werth cyn y fersiwn Ankst gan dderbyn llawn gymaint o sylw. Chwaraewyd y trac Ethiopia Newydd sawl tro ar Radio Cymru phan wahoddwyd Wright ac Evans i recordio sesiwn ar gyfer ei rhaglen radio Heno Bydd yr Adar yn Canu gan Nia Melville penderfynon fynd ati i berfformio a recordio'n rheolaidd ac bu Rheinallt H Rowlands yn fand go iawn go-lwyddiannus am tua ddeg mlynedd.[3]
Ectogram
Wedi i Fflaps gorffen ffurfiodd Ectogram ym 1993, eto gydag Ann Matthews yn canu. Rhyddhawyd sawl albwm a theithiodd y band ar draws Prydain a Ewrop.[4]
Yn ystod 2005, chwaraeodd Ectogram nifer o gyngherddau gyda'r grŵp Almaeneg Faust, gan ymuno â nhw ar lwyfan o bryd i'w gilydd am berfformiadau ar y cyd. Yn 2012 roeddent yn fand cyfeilio i gyn aelod Can, Damo Suzuki.[5] Bu farw drymiwr Ectogram Maeyc Hewitt yn 2015 ac nid yw'r band wedi bod yn weithgar ers hynny..[6]
Gorky's Zygotic Mynci
Gyda Gorwel Owen bu'n cynhyrchydd rhai o recordiau cyntaf Gorky's Zygotic Mynci fel Bwyd Time, Merched yn gwneud gwallt ei gilydd a Game of Eyes a gan ddylunio'r cloriau hefyd.
Brosiectau eraill
Ym mhilith y grwpiau a recordio di-rif mae Holmes wedi bod yn rhan ohonynt roedd yn aelod o'r 'Sarff/The Serpents ym 1999 prosiect o dros 30 o gerddorion yn cynnwys aelodau o Super Furry Animals ac Echo and the Bunnymen. Rhyddhawyd y Sarff un CD You Have Just Been Poisoned By ar label Ochre a derbyniodd cryn sylw yn y wasg ar y pryd.[7]
Mae Alan Holmes hefyd wedi bod yn gerddor sesiwn ar sawl albwm Cymraeg yn cynnwys record gyntaf Melys,
Chwaraeodd ffidl gyda grŵp David Wrench a rhyddhawyd LP Blow Winds Blow ar Label AnkstMusik. Hefyd ar ddiwedd y 199au ffurfiodd y band Parking Non-Stop a oedd yn cynnwys recordiadau maes a cherddi gan ei wraig y bardd Zoë Skoulding. Chwaraeodd y grŵp nifer o gyngherddau ar draws Ewrop a rhyddhawyd dau CD ar label Almaeneg.
Yn 2004 canodd mewn côr cefndir i'r band Almaeneg Einstürzende Neubauten mewn cyngerdd yn Palast der Republik, Berlin[8] ac yn 2017 cyfansoddood drac sain ar gyfer y cyfrol Psalmy gan y bardd Pwyleg Julia Fiedorczuk[9]
Label Turquoise Coal
Ffurfiodd y label Turquoise Coal yn 2012 sydd yn rhyddhau recordiadau yn Saesneg a Chymraeg gan grwpiau o Ogledd Cymru yn cynnwys ei brosiectau personol fel Spectralate, Normal Shed Uses ac The Groceries.
Mae gwefan y label yn pwysleisio nad oes ganddo sŵn penodol ac mae’n agored i unrhyw 'genre’.[10]
Cafodd record gyntaf Turquoise Coal, Ha Ha gan Irma Vep ei lansio ar Sadwrn 24 Mawrth, 2012 yn siop Recordiau Cob Bangor ble roedd Holmes yn gweitho tu ôl y cownter - diwrnod olaf y siop a oedd yn cau wedi 33 mlynedd.[11]