Cyflwynydd radio a theledu oedd John Robert Parker Ravenscroft (30 Awst 1939 – 25 Hydref 2004), neu John Peel OBE. Cafodd ei eni yn Heswall, Lerpwl.
Bu'n gyfrifol am hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ar BBC Radio 1 ar ei raglen nosol boblogaidd The John Peel Show. Chwaraeodd gerddoriaeth grwpiau fel Yr Anhrefn a Datblygu, Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci.