Ysgol Uwchradd Llanedern

Ysgol Uwchradd Llanedern
Llanedeyrn High School
Sefydlwyd 1970
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mr Julian Doroszczuk
Lleoliad Round Wood, Llanedern, Caerdydd, Cymru, CF23 9US
AALl Cyngor Caerdydd
Disgyblion 886 (2006)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–16
Gwefan http://llanedeyrn.cardiff.sch.uk


Ysgol uwchradd gyfun gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Llanedern, Caerdydd yw Ysgol Uwchradd Llanedern (Saesneg: Llanedeyrn High School). Hon oedd ysgol gyfun gyntaf Caerdydd i gael ei hadeiladu yn arbennig ar gyfer y pwrpas pan agorwyd ym 1970.[2] Mae'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 16 oed. Y prifathro presennol ydy Mr Julian Doroszczuk.[3]

Bydd yr ysgol yn cau ym mis Awst 2014.

Roedd 886 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2006, cynnydd fechain ers arolgiad 2000. Saesneg oedd prif iaith y rhanfwyaf ohonynt, a deuai tua 15% o gefndiroedd lleiafrif ethnig. Nid oedd Saesneg na Chymraeg yn brif iaith y cartref i 3% o'r disgyblion, ac ychydig iawn o ddisgyblion a siaradai Gymraeg fel iaith gyntaf. Cafodd 356 o ddisgyblion eu gwahardd o'r ysgol yn ystod blwyddyn addysgol 2005–2006[1]

Arolygiad Estyn 2008 oedd y pumed ers Ebrill 2006, pan roddwyd yr ysgol dan fesurau arbennig. Penderfynwyd nad oedd y mesuriadau rheini'n anghenrheidiol bellach oherwydd y gwelliannau sylweddol oedd wedi bod yn yr ysgol. Roedd y nifer o ddisgyblion a gafodd eu gwahardd o'r ysgol ym mlwyddyn 2007–2008 wedi lleihau o bron i draean i gymharu â 2006–2007[4]

Cyn-ddisgyblion o nôd

Gweler y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Llanisien

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1  Report: Llanedeyrn High School Inspection: 24/04/06. Estyn (27 Mehefin 2006).
  2.  Our School. Ysgol Uwchradd Llanedern. Adalwyd ar 26 Ionawr 2010.
  3.  School Details: Llanedeyrn High School. Cyngor Caerdydd.
  4.  Report: Llanedeyrn High School Inspection: 22–25 January 2008. Estyn (2008).

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!