Ysgol gynradd Gymraeg yn Llanelli yw Ysgol Gymraeg Dewi Sant. Fe'i henwir ar ôl Dewi Sant, nawddsant Cymru.
Agorwyd Ysgol Gymraeg Dewi Sant ar Ddydd Gŵyl Dewi 1947, yn ysgoldy Capel Seion.[2] Hon oedd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf i'w chynnal yn llwyr gan Awdurdod Addysg Lleol,[3] gan gychwyn pennod newydd yn hanes addysg yng Nghymru. Olwen Williams oedd prifathrawes gyntaf yr ysgol,[2] a gwasanaethodd am 25 mlynedd. Olynwyd gan John Morris Williams, ac o dan ei arweiniad tyfodd yr ysgol i fod yn un o ysgolion cynradd mwyaf Dyfed. Erbyn 2009, roedd 455 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol.[1]