Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn ardal Ystum Taf, Caerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghaerdydd.
Hanes
Sefydlwyd yr ysgol yn benllanw i flynyddoedd o ymgyrchu dros addysg Gymraeg. Agorodd ei drysau i'r disgyblion cyntaf (98 ohonynt) ym Medi 1978. Dewiswyd safle ysgol Saesneg ei chyfrwng, Glantaff, fel y lleoliad gan fod niferoedd yr ysgol Saesneg yn cwympo'n naturiol oherwydd rhesymau demograffig ac apêl ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal. Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Malcolm Thomas. Bu Mr Huw Thomas, Mrs Rhiannon Mary Lloyd a Mr Alun Davies yn brifathrawon yn yr ysgol. Y Pennaeth presennol yw Mr. Matthew Evans a ymunodd â’r ysgol ym mis Medi 2020 o Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.[1]