Fe'i penodwyd i Dŷ'r Arglwyddi yn 2010 fel Barwnes Morgan o Drelái[2], a bu'n Llefarydd yr Wrthblaid ar Faterion Cymreig yno o 2013 i 2016.
Etholwyd Eluned Morgan yn Aelod Cynulliad dros Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2016.
Yn 2017 fe'i gwnaed yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Yn Hydref 2020 fe'i gwnaed yn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg er mwyn i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymateb i’r coronafirws a pherfformiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.[3]
Yng Ngorffennaf 2024 cyhoeddodd Vaughan Gething y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru ac fel Prif Weinidog. Yr wythnos ganlynol cyhoeddodd Morgan byddai'n sefyll fel arweinydd nesaf Llafur, gyda Huw Irranca-Davies, yn rhedeg fel ei dirprwy.[4] Ni chafwyd unrhyw enwebiadau arall ar gyfer yr arweinyddiaeth ac felly cyhoeddwyd Morgan fel arweinydd ar 24 Gorffennaf 2024. Hi yw arweinydd benywaidd cyntaf Llafur Cymru.[1]
Mewn cyfweliad, dywedodd ei fod yn bwysig "ymddiheuro i'r cyhoedd yng Nghymru". Ychwanegodd fod hyn yn "ymwneud â throi tudalen newydd".[5] Fe'i etholwyd yn Brif Weinidog ar 6 Awst 2024 mewn cyfarfod arbennig o'r Senedd.[6]
↑Fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o 2021 i 2024
↑Dirprwy Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes o 3 Tachwedd 2017 i 13 Rhagfyr 2018; Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol o 13 Rhagfyr 2018 i 8 Hydref 2020; y Gymraeg o 8 Hydref 2020.