Ysgol GlyndŵrMath o gyfrwng | ysgol |
---|
Daeth i ben | 1970 |
---|
Dechrau/Sefydlu | 1968 |
---|
Sylfaenydd | Trefor Morgan |
---|
Pencadlys | Pen-y-bont ar Ogwr |
---|
- Noder nad erthygl am Brifysgol Glyndŵr yw hwn
Roedd Ysgol Glyndŵr yn ysgol addysg cynradd ac uwchradd breswyl am-dâl a sefydlwyd ym Mryntirion, Trelales, Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 1968-70. Sefydlwyd yr ysgol gan cenedlaetholwr ac entrepreneur, Trefor Morgan a'i wraig, Gwyneth, oedd hefyd yn athrawes yno. Daeth yr ysgol i ben yn ddisymwth yn dilyn marwolaeth Trefor Morgan yn 56 oed.
Hanes
Roedd sefydlu'r ysgol yn ddatblygiad ar fenter arall flaenorol gan Trefor Morgan i hyrwyddo addysg Gynraeg, sef sefydlu Cronfa Glyndŵr yn 1963.[1] Gellir ei weld fel datblygiad o'r ymgais i sefydly Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn 1939, a oedd yn ysgol am-dâl i gychwyn, ac ymdrech Gwyn M. Daniel ac eraill i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd yn 1940 ar yr un sail. Yn debyg i ysgolion Llydaweg rhwydwaith Diwan, y prif symbyliad oedd cynnig addysg Gymraeg llawn, nid creu ysgol fonedd yn y traddodiad Seisnig.
Sefydlwyd yr ysgol yn sgîl "rhwystredigaeth rhieni ardal Pen-y-bont gyda Chyngor Sir Forgannwg i sefydlu addysg Gymraeg yn yr ardal", yn ôl Yr Athro Laura McAllister bu'n ddisgybl yn yr ysgol.[2]
Lleolwyr yr ysgl ar safle hen ysgol breifat. Yn wahanol i Ysgol Gyfun Rhydfelen, yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yn nwyrain Morgannwg, roedd Ysgol Glyndŵr am ddysgu pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y gwyddoniaethau.
Sefydlwyd yr ysgol yn 1968 ond bu iddo cau yn fuan wedi marwolaeth disymwth Morgan yn 1970.[3]
Derbyniodd yr ysgol wrthwynebiad o du cefnogwyr addysg Gymraeg, a bryderai ei fod yn rhoi cynsail i'r awdurdodau lleol beidio darparu ysgolion cyfrwng Cymraeg gwadol a'r ffaith y gall sefydlu ysgol breifat breswyl roi nerth i honiadau ac ensyniadau gwrthwynebwyr addysg Gymraeg bod addysg Gymraeg yn rhywbeth i bobl gyfoethog ac elite. Yn ôl Brian James, cyfaill i Trefor a Gwyneth, a ddaeth maes o law yn Ddiwrprwy Brif Athro Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd ac yn Ysgrifennydd Cronfa Glyndŵr, gallai honiadau o snobyddiaeth "ddim fod yn bellach o feddyliau [nhw] na chreu 'ysgol fonedd'. Roeddynt yn weriniaethwyr a'r adeg hynny yr unig ffordd o gynnig addysg gyfan cyfrwng Cymraeg unrhyw le yn y wlad ... byddant [Trefor a Gwyneth] yn rhoi eu harian ei hunain i gefnogi rhieni oedd yn gefnogi'r un weledigaeth â hwy ond doedd methu fforddio'r gost."[4]
Yr Ysgol
Athrawon
Un o'r athrawon yn yr ysgol oedd y prifardd Gerallt Lloyd Owen a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1969 am ei gerdd enwog i Llywelyn ap Gruffudd, pan oedd yn athro yn Ysgol Glyndŵr.[4]
Yr athrawon eraill oedd; Elin Garlick, John (Jac) Harris, Rita Bohana and Falmai Pugh.[4]
Roedd gwraig Trefor, Gwyneth hefyd yn athrawes.
Gwisg
Yn ôl Elin Hefin, (neé Williams), oedd yn ddisgybl yn yr ysgol gyda'i chwaer, Siwan, roedd gwisg yr ysgol yn cynnwys sannau llwyd, a tiwnic brethyn glas golau gyda bathodyn Croes Geltaidd yr ysgol.
Arwyddair yr ysgol oedd, "Gan Brynu'r Amser".[4]
Dolenni
Cyfeiriadau