Ysgol gyfun ddwy-ieithog yw Ysgol Eifionydd, Porthmadog, gyda'r rhan fwyaf o'i disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Fe'i lleolir wrth ymyl Rheilffordd Eryri ym Mhorthmadog ac mae'n gwasanaethu ardal De-Ddwyrain Dwyfor gan gynnwys Porthmadog a Chricieth.
Roedd 487 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006, o'i gymharu â 534 yn 2005.[1][2]
Mae'r ysgol dros gan mlwydd oed. Un o'i chyn-ddisgyblion enwocaf oedd yr ysgolhaig a'r bardd T. H. Parry-Williams a aeth yno yn 11 oed yn 1898. Roedd yn arfer bod yn ysgol ramadeg yn hytrach nag yn ysgol gyfun; Ysgol Ganolradd Porthmadog oedd ei henw ar y pryd.
Un o gyn-athrawon Ysgol Eifionydd yn yr adran gelf ac arlunio oedd Rob Piercy, sydd bellach yn beintiwr llwyddiannus.
Nodir: Daw 17% o'r plant o du-allan i dalgylch yr ysgol. (2005)[1]