Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Y Gelli. Saif ar lan Afon Rhondda. Bu'n bentref glofaol yn y gorffennol ac yn rhan o gymuned ehangach Ystrad Rhondda. Roedd fferm o'r enw'r Gelli yma ar un adeg; ystyr y gair yw coedwig fechan.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Chris Bryant (Llafur).[1][2]
Cyfeiriadau