Blaen y pen yw wyneb, sy'n enw gwrywaidd, rhan o gorff anifail, sy'n cynnwys llawer o'r organau teimlo e.e. y llygad, y trwyn, croen a'r tafod.[1][2


Blaen y pen yw wyneb, sy'n enw gwrywaidd, rhan o gorff anifail, sy'n cynnwys llawer o'r organau teimlo e.e. y llygad, y trwyn, croen a'r tafod.[1][2] O ran person, yr wyneb yw'r rhan o'r corff sydd hawddaf i adnabod y person.
Yn Gymraeg, mae rhan fflat llawer o wrthrychau'n cael eu galw'n wyneb: wyneb y dudalen, wyneb ffordd a sonir am "wyneb llyfr" neu arw gwrthrychau hefyd. Pan fo dau berson yn cyfarfod ei gilydd, dywedir eu bont wedi dod wyneb yn wyneb a'i gilydd. Yn y Saesneg, caiff ei ddefnyddio am ffrynt adeilad - yr ochr sy'n wynebu'r cyhoedd, fel arfer: y rhan a elwir yn "facade", ond yn Gymraeg mae'r gair "tu" neu "tal" yn cael ei ddefnyddio fel yn "tu blaen" neu "talcen". Dywedir hefyd fod person yn medru bod yn "wyneb galed", sy'n golygu ei fod yn ddigywilydd.
Pan nad oes darmac ar ffordd, dywedir ei fod yn "ddiwyneb".[3]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.