Dant

Mae dant (lluosog: dannedd) yn helpu i dorri, rhywgo a malu bwyd cyn bod y bwyd yn cael ei lyncu. Mae gwahanol fathau o ddannedd. Mae gan fodau dynol dri math o

Dant
Dant
A - Coron, B - Gwraidd, 1 - Enamel, 2 - Dentin, 3 - Bywyn, 4 - Deintgig, 5 - Smentwm, 6 - Asgwrn, 7 - Pibell waed, 8 - Nerf

Mae dant (lluosog: dannedd) yn helpu i dorri, rhywgo a malu bwyd cyn bod y bwyd yn cael ei lyncu. Mae gwahanol fathau o ddannedd. Mae gan fodau dynol dri math o ddannedd. Mae'r cilddannedd fel arfer yng nghefn y geg yn malu'r bwyd yn fân. Mae'r dannedd llygad yn hir ac yn finiog iawn. Defnyddir dannedd llygad i ddal gafael yn y bwyd. Mae'r blaenddannedd ym mhen blaen y geg, fel yr awgryma'r enw, ac fe'u defnyddir i rwygo'r bwyd.

Mae dannedd yn wahanol mewn anifeiliad eraill. Mae gan y cigysyddion (bwytwyr cig) ddannedd sydd yn addas i ladd anifeiliad eraill ac i rwygo cnawd. Mae'r dannedd llygad yn hir a miniog i afael yn dynn mewn cnawd a'r cilddannedd yn cracio a malu esgyrn yn fan. Mae gan lysysyddion (bwytwyr cig) ddannedd sy'n addas i fwyta planhigion. Mae'r blaenddannedd yn torri a'r cilddannedd yn malu'n fan.

Mewn llenyddiaeth Gymraeg

Ceir sôn am ddannedd yn yr hen benillion:

On'd ydyw yn beth hynod
Fod dannedd merch yn darfod?
Ond tra bo yn ei genau chwyth
Ni dderfydd byth mo'i thafod.

Arferion Hanesyddol

Roedd yna arferiad (ffashiwn?) ddechrau’r 20ed ganrif sy’n anodd iawn i ni ddeall erbyn heddiw, sef talu deintydd i dynnu’ch dannedd i gyd er mwyn prynu danedd gosod (dannedd dodi) smart a di-drafferth i bara am oes! Dyma ddwy enghraifft byw o ddyddiadur Griffith Thomas (11 mlynedd rhwng y ddau!):

  • 3 Ebrill 1918 Rhiw, Llŷn: "Mercher 3. Fi a Eliza yn mynd i’r dre. Llwytho yr SS Anne. 350 Tynnu fy nanedd - dim gwaith.".
  • 13 Awst 1929 Rhiw Llŷn: "Arian gan Daniel 5/7d. Yn ffair awst yn gorffen tynnu fy nanedd"[1]

Dyma rai cofnodion o hyn wedi eu codi o Facebook (Grwp Cymuned Llên Natur):

  • Yn Nhregaron yn y 60au roeddech yn gallu neud hyn ar yr NHS gyda'r deintydd oedd yn dod ar ddiwrnod mart! (Jenny Heney)
  • Cofio fy ffrind yn dweud i’w nain (Bethesda) gael tynnu ei dannedd igyd a chael set cyfan o ddannedd gosod fel presant priodas gan ei rhieni!! I arbed trafferth efo nhw yn y dyfodol! Fel Dowry od. Dwi ddim yn gwybod pryd roedd hyn ond debyg y byddai ei nain tua 80-90 erbyn hyn. (Catrin Meirion)
  • Fe dynnwyd dannedd Mam i gyd jyst cyn fy ngeni i yn y 40au i arbed trafferth! Ac roedd gen i aelod o staff yn y 70au gafodd dynnu ei dannedd yn anrheg 18 oed. (Megan Tudur)


Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddeintyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch am dant
yn Wiciadur.
  1. Dyddiadur Griffith Thomas, AelyBryn yn Tywyddiadur[1] Archifwyd 2022-05-29 yn y Peiriant Wayback

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.