Tref yn sir Dumfries a Galloway yn ne-orllewin yr Alban yw Whithorn (Gaeleg: Taigh Mhàrtainn). Poblogaeth: 867 (2001). Mae'n gorwedd ar arfordir Galloway tua 1
Adfeilion Capel Ninian, Priordy Whithorn | |
| Math | tref, bwrdeistref fach |
|---|---|
| Poblogaeth | 780 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 54.735°N 4.416°W |
| Cod SYG | S20000296, S19000325 |
| Cod OS | NX445405 |
| Cod post | DG8 |
![]() | |
Tref yn sir Dumfries a Galloway yn ne-orllewin yr Alban yw Whithorn (Gaeleg: Taigh Mhàrtainn). Poblogaeth: 867 (2001). Mae'n gorwedd ar arfordir Galloway tua 10 milltir i'r de o Wigtown.
Mae gan Whithorn hanes hir. Ystyr yr enw yw 'Y Tŷ Gwyn' (Eingl-Sacsoneg: Hwit Ærne), cyfeiriad at y ganolfan eglwysig a sefydlwyd yno gan Sant Ninian, yn ôl traddodiad. Daeth yn ganolfan pererindod o bwys.
Fel gweddill ardal Galloway, roedd Whithorn yn rhan o'r Hen Ogledd ac mae'n bosibl y bu'n rhan o deyrnas Rheged am gyfnod. Yna daeth dan reolaeth Brynaich Eingl-Sacsonaidd. Yn nes ymlaen bu'n rhan o Deyrnas Manaw a'r Ynysoedd. Codwyd priordy cadeiriol yno yn yr Oesoedd Canol sy'n adfail heddiw. Cedwir y casgliad pwysig o gerrig cerfiedig cynnar o'r priordy yn Amgueddfa Genedlaethol yr Alban: dyma'r casgliad mwyaf o'r cerrig Cristnogol hyn yn yr Alban.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.