Mae Victor Victoria (1982) yn ffilm gomedi cerddorol gan Metro-Goldwyn-Mayer, sy'n ymwneud â thrawswisgo a hunaniaeth ryweddol fel y themâu canolog. Mae'n serennu Julie Andrews, James Garner, Robert Preston, Lesley Ann Warren, Alex Karras a John Rhys-Davies. Cynhyrchwyd y ffilm gan Tony Adams a chafodd ei chyfarwyddo gan Blake Edwards. Ysgrifennwyd y sgôr gan Henry Mancini a'r geiriau gan Leslie Bricusse. Yn 1995 cafodd ei addasu'n sioe gerdd Broadway. Enwebwyd y ffilm am saith o Wobrau'r Academi ac enillodd y Sgôr Wreiddiol Orau. Addasiad yw'r ffilm o Viktor und Viktoria, ffilm Almaenig o 1933.
Cast