Rhodfa lydan yn Ninas Efrog Newydd yw Broadway. Er bod Broadways eraill yn Efrog Newydd, yng nghyd-destun y ddinas, cyfeiria Broadway fel arfer at Stryd Manhattan. Dyma yw'r prif dramwyfa hynaf o'r gogledd i'r de drwy'r ddinas, ac mae'n dyddio i Setlwyr Amsterdam Newydd. Mae'r enw Broadway yn gyfieithiad Saesneg o'r enw Iseldireg, Breede weg. Mae rhan o Broadway yn enwog fel uchafbwynt y diwydiant theatr Americanaidd.