Asana, neu osgo'r corff o fewn ioga yw Tulasana (Sansgrit: तुलासन; IAST: Tulāsana), Asana Cydbwysedd,[1] Dolasana (Y Siglen),[2]
| Enghraifft o: | asana |
|---|---|
| Math | asanas cydbwyso |
| Dynodwyr | |
Asana, neu osgo'r corff o fewn ioga yw Tulasana (Sansgrit: तुलासन; IAST: Tulāsana), Asana Cydbwysedd,[1] Dolasana (Y Siglen),[2] Tolasana (Y Glorian),[3][4] neu Utthita Padmasana (Lotws Uchel).[5] Asana cydbwyso ar y dwylo yw hwn, mewn gwirionedd ac fe'i ceir mewn ioga modern fel ymarfer cadw'n heini.
Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit tula (तुला) sy'n golygu "cydbwysedd",[6] ac asana (आसन, āsana) sy'n golygu "osgo" neu "siâp y corff".[7]
Nid yw'r asana hwn yn cael ei ddisgrifio yn y testunau Ioga Hatha canoloesol. Ymddengys yn gyntaf yn First Steps to Higher Yoga 1970 ,[8] ac yn Light on Yoga BKS Iyengar ym 1966 lle mae'n cael ei sillafu fel Tolasana).[9]
O'r siâp Padmasana (safle Lotws), mae'r ymarferydd gyda'r cledrau wedi'u gosod ar y llawr bob ochr i'r cluniau'n codi'r torso cyfan a phlethu'r coesau gan ddefnyddio'r breichiau a'r ysgwyddau.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.