Anterliwt o waith y dramodydd Twm o'r Nant yw Tri Chryfion Byd sy'n dyddio o 1789. Tri Chryfion Byd, sef Tlodi, Cariad ac Angau yw eglurhad y teitl, a phrif gy
| Enghraifft o: | anterliwt, llyfr, drama |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1789 |
| Awdur | Twm o'r Nant |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1789 |
| Genre | Dramâu Cymraeg |
| Dynodwyr | |
Anterliwt o waith y dramodydd Twm o'r Nant yw Tri Chryfion Byd sy'n dyddio o 1789. Tri Chryfion Byd, sef Tlodi, Cariad ac Angau yw eglurhad y teitl, a phrif gymeriadau'r anterliwt. "Wel bellach crybwyllaf mi dystiaf am Destyn, O'r dull yn deg hylwydd mae'r trefniad yn Câlyn, Am dri chryfion byd ddwys Olud mewn Sulw, Sef Tlodi, a Chariad, ag Angeu tra chwerw."[1] Cafwyd sawl addasiad cyfoes o'r ddrama dros y blynyddoedd gan gynnwys Tri Chryfion Byd neu Pres Mawr Penna Bach yn y 1990au.
Llwyfannwyd yr anterliwt gan Gwmni Theatr Cymru ym 1972. Defnyddiwyd y ddau deitl i werthu'r sioe, gyda'r ail yn nodi'n syml "Twm o'r Nant Charles Williams a dwsin o gwmpeini diddan yn actio, canu, dawnsio" i hwyluso'r marchnata, ar gefn llwyddiant y diddanwr a'r actor o Ynys Môn.[2]
Dyma gynhyrchiad cyntaf John Pierce Jones fel "actor proffesiynol" ym mis Hydref 1972, ac mae'n sôn am y profiad yn ei hunangofiant: "Pan agorais y drws a cherdded i mewn i'r ystafell gwelais wynebau a oedd yn gyfarwydd i mi fel hoelion wyth y byd actio Cymraeg.[...] Rhan fechan iawn oedd gen i yn rhan gyntaf yr anterliwt. Roedd Wynford [Ellis Owen] yn actio Angau, felly roedd ganddo 'olygfa rymus efo Marged Esli, oedd yn chwarae Cariad." Cofia Jones hefyd am un achylysur lle gofynwyd iddo i chwarae rhan Wynford, gyda'i "fwgwd mawr ar ffurf penglog yn cuddio'i wyneb, felly doedd neb yn gwybod pwy oedd yn y wisg. Bûm yn ymarfer y rhan felly am sawl pnawn efo Charles (oedd yn gyfarwyddwr arbennig) a Marged Esli. Daeth y noson fawr, ac er mai fi oedd yn actio Angau, enw Wynford oedd yn y rhaglen. Drwy gyd-ddigwyddiad Ilwyr, roedd adolygydd Y Faner yn y gynulleidfa y noson honno, ar wythnos ganlynol roedd canmoliaeth fawr i'r cynhyrchiad yn y papur. Tynnwyd sylw yn arbennig at berfformiad 'Wynford Ellis Owen' - felly cefais fy adolygiad cyntaf fel actor o dan enw actor arall," cyfaddefodd.[4]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.