Grey Evans

Actor a chyfarwyddwr theatr o Gymru sy'n hanu o Flaenau Ffestiniog yw Grey Evans (ganed 1942). Mae'n wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau a theledu Cymru ers y 196

Grey Evans
Grey Evans
Grey Evans yn y ddrama Roedd Catarina O Gwmpas Ddoe gan Gwmni Theatr Cymru yn 1970
GanwydDaniel Vaughan Grey Evans
1942
Blaenau Ffestiniog
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor a chyfarwyddwr theatr
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru, Cwmni Theatr Gwynedd
PlantGwyneth Glyn

Actor a chyfarwyddwr theatr o Gymru sy'n hanu o Flaenau Ffestiniog yw Grey Evans (ganed 1942). Mae'n wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau a theledu Cymru ers y 1960au.

Wedi graddio gyda llwyddiant academaidd arbennig yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol Bangor, dewisodd yrfa fel actor. Cafodd ei dderbyn yn un o'r cyntaf i ymuno â Cwmni Theatr Cymru o dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts, lle bu'n rhan o sawl cynhyrchiad nodedig, nid yn unig fel actor ond fel cyfarwyddwr hefyd.

Gweithiodd ar sawl cyfres deledu a ffilm i S4C a'r BBC, o'i dyddiau cynnar, gan gynnwys y cyfresi Minafon a Deryn a chyfresi di-Gymraeg fel The District Nurse. Portreadodd nifer eang o gymeriadau mewn ffilmiau Cymraeg gan gynnwys Madam Wen, Branwen, Tylluan Wen ac Y Mynydd Grug. Ef fu'n portreadu tad y bardd Hedd Wyn yn y ffilm Hedd Wyn a enwebwyd am Oscar, ac ymddangosodd hefyd yn yr addasiad ffilm o Un Nos Ola Leuad.

Wedi i Gwmni Theatr Cymru ddod i ben ym 1984, bu'n rhan o sefydlu Cwmni Theatr Gwynedd a bu'n actio a chyfarwyddo i'r cwmni, yn ogystal â bod yn aelod o'r Panel Artistig.[1]

Preswyliodd yn Llanarmon ger Cricieth gyda'i wraig Jane, ac mae'n dad i'r bardd, cerddor ac actores Gwyneth Glyn.

Cafodd ei urddo i Orsedd Y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006, am ei "gymwynas â'r Genedl drwy rannu ei grefft a'i brofiad helaeth fel cynhyrchydd a beirniad drama yn lleol a chenedlaethol".[2]

Gyrfa

Grey Evans mewn cynhyrchiad gyda Cwmni Theatr Cymru yn 1970

Theatr

(detholiad fel actor a chyfarwyddwr)

Cwmni Theatr Cymru

Cwmni Theatr Gwynedd

Teledu a Ffilm

Cyfeiriadau

  1. Rhaglenni amrywiol gynyrchiadau Cwmni Theatr Gwynedd.
  2. "BBC Cymru'r Byd - Eisteddfod Genedlaethol 2006 - Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-27.
  3. "Grey Evans". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-08-27.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.