Man adloniant a pherfformiad amlbwrpas yr Theatr Derek Williams. Fe'i lleolir yn rhan o gampws Ysgol Godre’r Berwyn yn y Bala. Enwyd ar ôl Derek Williams (a sillefir hefyd yn 'Derec' Williams).[1]
Defnydd newydd
Gydag ad-drefnu addysg yn y y Bala yn yr 2010au gan gyfuno ysgolion cynradd y dref gydag Ysgol Uwchradd y Berwyn, penderfynnod y llywodraethwyr a’r pennaeth fod yr ysgol yn cael ei defnyddio’n helaeth gan yr holl gymuned. Un elfen hanfodol wrth hyrwyddo’r weledigaeth hon oedd y theatr. Wrth ail-wampio hen adeilad Ysgol y Berwyn yr oedd yr hen neuadd yn cael ei huwchraddio ac yn dechrau cael ei datblygu yn lle mwy croesawgar a chyfforddus i berfformwyr a chynulleidfa. Gwnaed apêl am gefnogaeth gan gynull nifer o bobl â diddordeb i ffurfio corff a fyddai’n cynnal a datblygu’r theatr.[1]
Derbyniwyd cefnogaeth ariannol gan Gyngor Gwynedd yn 2019 i ddatblygu’r theatr a gwella’r adnoddau a’r drefn ymhellach. Y bwriad yw darparu a dangos adloniant i bobl Penllyn, Edeyrnion, Uwchaled a thu hwnt.[2]
Enwi’r theatr
Penderfynwyd yn unfrydol oedd galw'r man perfformio newydd yn Theatr Derek Williams.
Bu Derek yn athro mathemateg yn Ysgol y Berwyn o 1983 hyd 2009 gyda diddordeb mawr ym myd y celfyddydau. Bu’n cyfansoddi sgriptiau a geiriau caneuon, yn cynhyrchu pob math o sioeau gan ysbrydoli cenedlaethau o blant a phobl ifanc. Yr oedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a fu’n gyfrifol am sioeau cerdd tebyg i ‘Y Mab Darogan’, ‘Pum Diwrnod o Ryddid’ ac ‘Ann!’
Bydd yr enw hwn yn fodd i gofio ac i dalu teyrnged i waith Derek Williams yn yr ysgol a’r ardal.[1] Mab i Derek yw'r perfformiwr Meilyr Rhys Williams[3] sydd wedi bod yn rhan o ensemble Cabarela.
Arlyw
Mae Theatr Derek Williams yn dangos arlyw eang o adloniant - ffilmiau Hollywood, dramâu Cymraeg a Saesneg, cyngherddau pop Cymraeg, darllediadau byw o ddramâu llwyfan Saesneg. Ymysg yr artistiaid Cymraeg i berfformio yno yn 2024 mae; Cowbois Rhos Botwnnog a Mynediad am Ddim ac yn 2023 roedd sioe Nadolig Cabarel.[4]
Mae hefyd modd llogi'r lleoliad ar gyfer digwyddiadau preifat neu gymunedol.
Cyfeiriadau
↑ 1.01.11.2"Hanes". Gwefan Theatr Derek Williams. Cyrchwyd 18 Mawrth 2024.