Mynediad am Ddim

Un o grwpiau pop a gwerin mwyaf poblogaidd Cymru ydy Mynediad am Ddim a sefydlwyd yn 1974 sydd yn canu'n gyson ers bron i 50 mlynedd![1][2]

Roedd hiwmor a'r elfen 'ffwrdd-â-hi' yn nodwedd amlwg yn eu canu o'r dechrau a cheid ganddynt gyfuniad o ganu gwerinol ei naws, a oedd yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr Cymraeg y coleg ar y pryd, a chaneuon gwreiddiol hwyliog. Roedd elfen gref o dynnu coes yn yr enw ei hun ac ymgais i ddrysu cyhoeddwyr a darllenwyr posteri cyngherddau a nosweithiau llawen.

Aelodau

Myfyrwyr yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, oedd y chwe aelod gwreiddiol: tri lleisydd, sef Emyr Wyn, Robin Evans a Mei Jones, a thri offerynnwr, sef Iwan Roberts (gitâr a mandolin), Graham Pritchard (ffidil, mandolin a phiano) a Dewi Jones (corn Ffrengig). Yr unig fwriad ar y dechrau oedd cystadlu yn Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 1974, ond yn dilyn eu llwyddiant yno daliwyd ati.

Yn 1975 cafwyd ychwanegiad allweddol at y chwe aelod gwreiddiol, sef Emyr Huws Jones, gŵr ifanc a oedd eisoes wedi gwneud ei enw gyda'r Tebot Piws. Un o'i ganeuon ef, sef 'Padi', a ddewiswyd pan aeth y band i'r stiwdio recordio am y tro cyntaf i gyfrannu un trac at y record amlgyfrannog Lleisiau (Adfer, 1975). Yn fuan wedyn ymadawodd Dewi Jones ac ymunodd Alun "Sbardun" Huws, un arall o gyn-aelodau'r Tebot Piws.

Yn 1976 penderfynodd Emyr Huws Jones gefnu ar berfformio, ond daliodd i gyfrannu caneuon. Llanwyd y bwlch gan Pete Watcyn Jones, gitarydd a mandolinydd profiadol. Wedi recordio record hir arall, 'Rhwng Saith Stôl' (Sain, 1977), trefnwyd taith i Lydaw (gyda Dafydd Iwan). Ar ôl y recordiad hwn gadawodd Alun 'Sbardun' Huws er mwyn canolbwyntio ar gyfeilio i Tecwyn Ifan, a gadawodd Mei Jones, hefyd, er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa fel actor a dramodydd.

Yn 1978 gadawodd Pete Watcyn Jones ac ymunodd Geraint Davies, un o gyn-aelodau Hergest, â'r band. Yn 1982 ymunodd Rhys Ifans (a fu gyda Bando) fel gitarydd bas. Yr aelodau hyn – Emyr Wyn, Robin Evans, Graham Pritchard, Geraint Davies a Rhys Ifans – oedd asgwrn cefn y band o hynny ymlaen. Yn niwedd yr 1990au ychwanegwyd Delwyn Siôn fel aelod achlysurol.

Yn 2010 ymunodd Geraint Cynan (a fu'n aelod o Bwchadanas ac yn perfformio'n gyson gyda Siân James) gan ganu'r allweddellau.

Cefndir

Roedd dylanwad canu gwerin Celtaidd, yn enwedig cerddoriaeth o Iwerddon a Llydaw yn sgil llwyddiant Alan Stivell, yn drwm arnynt, ac roedd hyn yn wir am y byd cerdd yng Nghymru hefyd e.e. ail-enwyd prif raglen deledu pop Cymraeg, Disc a Dawn, yn Gwerin 74. Yr unig fwriad ar y dechrau oedd cystadlu yn Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 1974, ond yn dilyn eu llwyddiant yno daliwyd ati.

Roedd y byd pop Cymraeg yn ei ieuenctid, gyda dim ond llond dwrn yn arloesi: Dafydd Iwan, Heather Jones, Meic Stevens a Huw Jones, y Tebot Piws a'r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog. Sefydlwyd 'Mynediad', fel yr oedd yn cael ei alw, fel ail reng o'r arloeswyr cynnar, gyda Sidan, Hergest, Ac Eraill, Cilmeri, Plethyn ac Edward H Dafis.

Digwyddiadau a datblygu

Un o ganeuon Emyr Huws Jones, 'Padi', a ddewiswyd pan aeth y band i'r stiwdio recordio am y tro cyntaf i gyfrannu un trac at y record amlgyfrannog Lleisiau (Adfer, 1975). Cafodd y band wythnos lwyddiannus iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Cricieth 1975, a daeth cyfle yn fuan wedyn i recordio record hir ar label Sain, Wa McSbredar, ar ôl un o ganeuon mwyaf poblogaidd y cyfnod hwnnw. Rhyddhawyd ail record hir, Mae'r Grŵp yn Talu (Sain, 1976), ac roedd pob cân bron naill ai o waith Emyr Huws Jones neu'n ganeuon/alawon traddodiadol, cyfuniad a fu'n sail i repertoire y band o hynny ymlaen. Buont yn teithio'n helaeth yng Nghymru a hefyd yn Iwerddon.

Llydaw

Yn 1977 rhyddhawyd record hir arall, Rhwng Saith Stôl (Sain, 1977), a threfnwyd taith i Lydaw (gyda Dafydd Iwan). Ar ôl y recordiad hwn gadawodd Alun 'Sbardun' Huws er mwyn canolbwyntio ar gyfeilio i Tecwyn Ifan, a hefyd Mei Jones er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa fel actor a dramodydd. Yn sgil profiadau Iwerddon a Llydaw, penderfynwyd canolbwyntio fwyfwy ar ganu gwerin traddodiadol. Trefnwyd taith arall gyda Dafydd Iwan – trwy Gymru y tro hwn – ac aed ati i recordio casgliad o ganeuon gwerin, gan anelu at farchnadoedd Celtaidd a thu hwnt yn ogystal â Chymru. Y canlyniad oedd rhyddhau Torth o Fara (Sain, 1978) – 17 o ganeuon, gyda phwyslais cyfartal ar y lleisiol a'r offerynnol. Teithiodd y grŵp i Lydaw eto dros yr haf. Yn sgil yr holl brysurdeb trafodwyd y posibilrwydd o droi'n broffesiynol, ond ni ddigwyddodd hynny.

Yn 1979 Mynediad am Ddim oedd un o brif atyniadau Gŵyl Guipavas ger Brest. Yn y cyfnod hwn recordiwyd y cyntaf o ddau gasét i'r Mudiad Ysgolion Meithrin, casgliad o hwiangerddi a chaneuon eraill i blant bach o'r enw Hwyl Wrth Ganu (dilynodd ail gasét, Hwyl yr Ŵyl, ar thema'r Nadolig, yn 1986).

Pen-blwydd

Yn 1992, i ddathlu pen-blwydd y band yn ddeunaw oed (a oedd yn cyd-daro â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth), rhyddhawyd casgliad o'r caneuon mwyaf poblogaidd, a chyhoeddwyd yr un pryd lyfr lloffion, Digon Hen i Yfed, yn olrhain hanes y grŵp. Yna, yn 1993, cyhoeddwyd tâp fideo o berfformiad byw o flaen cynulleidfa yn stiwdio Barcud, Caernarfon, Dyma Mynediad am Ddim. Yn ystod yr 1980au hwyr a'r 1990au yr uchafbwyntiau oedd perfformio yng Ngŵyl y Cnapan bum gwaith, ac yna, yn 2003, ymddangos gerbron torf o tua 8,000 yng Ngŵyl y Faenol ger Bangor.

2010au

Yn 2010 cyhoeddwyd cryno-ddisg arall, Hen, Hen Bryd a gynhwysai draciau newydd.

Disgyddiaeth

  • Mynediad am Ddim (Sain 1021M, 1975)
  • Mae'r Grwp yn Talu (Sain 1064M, 1976)
  • Rhwng Saith Stôl (Sain 1103M, 1977)
  • Torth o Fara (Sain 1137M, 1978)
  • Hen, Hen Bryd (Sain SCD 2604, 2010)

Casgliad:

  • 1974–1992 (Sain SCD2003, 1992)

Cyfeiriadau

  1.  Hanes Mynediad am Ddim.
  2. wici.porth.ac.uk; Gwefan y Porth ar Esboniadur y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; adalwyd 29 Awst 2018.

Dolenni allanol

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!