Mae The Man in the High Castle yn gyfres deledu hanes amgen Americanaidd a gynhyrchwyd gan Amazon Studios, Scott Free, Headline Pictures, Electric Shepherd Productions a Big Light Productions.[1] Seilir y gyfres ar y nofel 1962 o'r un enw gan yr awdur ffuglen wyddonol Philip K. Dick. Hanes amgen y byd yw'r stori sy'n dangos buddugoliaeth Axis yn yr Ail Ryfel Byd. Mae Unol Daleithiau America wedi cael eu rhannu'n dair rhan: Taleithiau Tawel America, gwladwriaeth byped Siapanaidd sy'n cynnwys y cyn-Unol Daleithiau i'r gorllewin o'r Mynyddoedd Creigiog; y Reich Natsiaidd Fwyaf, gwladwriaeth byped Natsiaidd yn hanner dwyreiniol y cyn-Unol Daleithiau; a pharth niwtral sy'n gyfryngwr rhwng y ddwy ardal, o'r enw Taleithiau'r Mynyddoedd Creigiog.
Ymddangosodd y peilot gyntaf ar 15 Ionawr, 2015 gyda'r nifer mwyaf o wylwyr ar gyfer unrhyw gyfres wreiddiol Amazon.[2] Ar 18 Chwefror, 2015 comisiynwyd cyfres llawn ddeg-pennod.[3] Rhyddhawyd y naw pennodd arall ar 20 Tachwedd, 2015.[4][5] Rhyddheir ail gyfres gyda deg pennod yn 2016.[6]
Y prif gymeriadau yw Juliana Crain, Frank Frink, Joe Blake, John Smith a Nobusuke Tagomi. Lleolir y gyfres mewn fersiwn amgen o'r flwyddyn 1962.
Mae Juliana Crain yn byw yn San Franciso ac yn dod i ymhel gyda gwrth-ryfelwyr pan caiff ei hanner chwaer, Trudy, ei lladd gan heddlu cudd Siapaneaidd, y Kempeitai, yn fuan wedi iddi roi casyn o ffilm sy'n dangos clip ffilm newyddion sy'n dangos hanes amgen lle mae'r Cynghreiriaid wedi ennill yr Ail Ryfel Byd a Siapan a'r Almaen wedi colli. Teitl y ffilm yw, The Grasshopper Lies Heavy, ac mae'n rhan o gyfres o glipiau ffilm 'newsreel' eraill a gesglir gan berson a adnabir fel, "The Man in the High Castle". Cred Juliana bod y ffilm newyddion yn adlewyrchu rhyw fath o realiti amgen sydd yn rhan o wirionedd fwy am y ffordd dyliau'r byd fod. Cred ei chariad, Frank Frink, (Iddew sy'n cadw ei hunaniaeth yn dawel er mwyn osgoi cael ei estraddodi a'i ladd gan y Naziaid) nad oes gan y ffilm unrhyw gyswllt gyda digwyddiadau go iawn. Dysga Juliana bod Trudy yn cludo'r ffilm i Canon City, Colorado, yn y Tir Niwtral, lle roedd hi wedi trefnu i gwrdd gyda rhywun. Penderfyna Juliana deithio yno yn lle Trudy er mwyn darganfod beth oedd gorchwyl ei hanner chwaer. Pan ddaw hi i Canon City, mae'n dod ar draws Joe Blake.
Mae Blake yn ddyn 27-year-old o Efrog Newydd sy'n asiant ddwbwl yn gweithio ar ran y Natsiaid o dan Obergruppenführer John Smith. Mae'n esgus bod yn aelod o'r gwrth-ryfelwyr er mwyn dod o hyd i gyswllt y gwrth-ryfelwyr yn Canon City, sef, yn yr achos hwn, Juliana, sydd yno yn lle Trudy.
Mae Nobusuke Tagomi yn uwch-swyddog yn Ymerodraeth Siapan yn San Francisco. Mae'n cwrdd gyda'r swyddog Naziaidd Rudolph Wegener, yn y dirgel. Mae Wegener yn teithio o dan ffug-enw dyn busnes o Sweden, o'r enw Victore Baynes. Mae Tagomi a Wegener, ill dau, yn bryderus am y gwagle pŵer bydd yn cael ei chreu unwaith bydd Adolf Hitler, y Führer ac arweinydd y Reich, yn marw neu'n cael ei orfodi i ymddeol oherwydd bod ei glefyd Parkinson's yn gwaethygu. Mae Siapan a'r Reich ar hyn o'r bryd mewn rhyw fath o Ryfel Oer sy'n llawn tensiwn ond heb ymladd agored ond gyda'r Reich yn arwain Siapan yn dechnolegol. Esbonia Wegener bydd olynydd Hitler am ddefnyddio bomiau atomig y Reich yn erbyn Siapan er mwyn cael gafael ar weddill y cyn Unol Daleithiau.
Yn y pen draw, caiff Frank Frink ei arestio pan ddaw'r Siapaneaid a'r Naziaid yn ddrwgdybus o weithredoedd Juliana. Mae'n gwrthod ei bradychu, gan arwain i'r Siapaneaid ladd chwaer Fink a'i dau blentyn gan ei bod yn Iddewon. Arweinia hyn ar i Fink benderfynu lofruddio Tywysog Coronog Siapan a'i Dywysoges wrth iddynt ymweld ag America. Ond mae'n penderfynu peidio gwneud ar y funud olaf.
Dechreuwyd darlledi dilyniant i'r gyfres gyntaf ar Amazon ar 16 Rhagfyr 2016.
Mae'n dilyn o ddiwedd y gyfres gyntaf gyda Juliana yn cwrdd gyda'r 'Man in the High Castle' ac yn cael rhagflas o'r dyfodol posib. Mae'r heddwas cudd, Joe Blake, wedi suro tuag at polisiau'r Natsiaid, ac er ei fod yn cwrdd gyda'i dad ym Merlin, yn ymddangos i ddewis dilyn llwybr newydd yn ei fywyd gan wrthod gweithio i'r Natsiaid.
Mae Frank Fink yn achub bywyd ei ffrind di-niwed, Ed McCarthy, ac yn y broses yn rhoi ei hun i weithredu'n llawn gyda'r Fyddin Gêl gwrth Siapaneaidd.
Mae'r tensiwn rhwng y Siapaneaidd a'r Naziaid yn parhau gyda'r Siapaneaid yn ceisio datblygu bom niwclear er mwyn gwrth-sefyll, ac o bosib, ymosod ar y Reich cyn iddynt hwythau ymosd ar Ymerodraeth Siapan.
Rhyddhawyd Cyfres 3 o'r Man in the High Castle ar wasanaeth ffrydio/teledu Amazon Prime ar 5 Hydref 2018.[8] Mae'r brif gymeriad, Juliana, yn darganfod nad yw ei chwaer wedi marw ac yn parhau i ddarganfod ei thynged ac ymladdd dros gymod rhwng Siapan a'r Reich ac dros ryddid o'r ddau bwer mawr. Mae Joe, wedi ei garcharu a bod ar gwrs 'cywiro' i fod yn Nazi llawn ... neu, a yw'r 'driniaeth' wedi gweithio.[9]
Mae wedi ei gadarnhau gan Amazon y bydd 4ydd cyfres maes o law.[10]
|accessdate=