Llwybr yn ne Cymru ar gyfer cerddwyr a seiclwyr yw Taith Taf (weithiau Llwybr Taf) (Saesneg: Taff Trail). Mae'r llwybr, sy'n rhan o Lôn Las Cymru, yn ymestyn am 55 milltir rhwng Caerdydd ac Aberhonddu, gan ddilyn Afon Taf am ran helaeth o'r ffordd.
Mae'r llwybr yn cychwyn ym Mhlas Roald Dahl, Caerdydd, ac yn croesi Afon Taf ac yna'n ei dilyn tua'r gogledd drwy ganol y ddinas, gan ddod o fewn 50 llath i orsaf reilffordd ganolog Caerdydd a Stadiwm y Mileniwm; yna mae'n arwain trwy Erddi Sophia, Parc Bute a Meysydd Pontcanna. Wedi gadael y ddinas, mae'n mynd drwy bentref Tongwynlais, lle mae'n fforchio, gydag un fforch yn dringo i Gastell Coch a'r fforch arall yn mynd islaw'r castell. Mae'r ddwy ran yn ail-ymuno ger Nantgarw.