Cyfeirir at tail fel arfer i gyfeirio at garthion anifail dof (gwartheg, ceffylau, ieir, defaid fel rheol) gyda gweddillion ei gweliau gwellt mewn beudy neu sta

Cyfeirir at tail fel arfer i gyfeirio at garthion anifail dof (gwartheg, ceffylau, ieir, defaid fel rheol) gyda gweddillion ei gweliau gwellt mewn beudy neu stabl sydd wedi dadelfennu gan eplesiad a'i ddefnyddio drachefn fel gwrtaith i wella'r tir a'r cnwd a dyfir.[1] Gall tail fod yn hylifog neu mwy solet, ond fel arfer meddylir am tail fel deunydd sydd ag ansawdd mwy solet. Cyfeirir at dail hylifog fel slyri.
Defnyddir y term "guano" ar gyfer tail sy'n dod o adar gwylltion neu ystlum mewn ogof.
Gellir defnyddio carthion dynol ac ar ôl ei drin caiff ei alw'n "dŵr du" gan ei ddefnuddio fel dyfrhad ar gyfer cnydau neu i wella ansawdd tir.
Defnyddir y term 'tail gwyrdd' ("green manure") ar gyfer planhigion sy'n tyfu'n sydyn ac yn ychwanegu maeth i'r pridd. Mae'r rhain yn cynnwys planhigion sy'n perthyn i deulu codlys (legumes) fel ffa a pys sy'n tyfu'n sydyn gan amlynci nitrogen o'r awyr i mewn i'w gwreiddiau ac yna'n ddwfn i'r pridd.[2]

Ceir yr enghraifft cofnodedig cynharaf o'r gair "tail" o'r 13g lle caiff ei ddefnyddio wrth gyfeirio ar arfer amaethu.[3] Y gair Llydaweg yw "teil". Defnyddir y gair "buarthdail" hefyd, er anfynych y clywir y term yma, bellach.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.