Taeog

Taeog yn y Canol Oesoedd oedd person oedd yn rhan o haen isaf cymdeithas, oedd yn rhwym wrth y tir a heb hawl i'w adael heb ganiatad ei arglwydd. Roedd gan yr a

Taeog
Darlun o'r Cleriwr, Marchog, Taeaog (dde) o'r Li Livres du Santé 13g

Taeog yn y Canol Oesoedd oedd person oedd yn rhan o haen isaf cymdeithas, oedd yn rhwym wrth y tir a heb hawl i'w adael heb ganiatad ei arglwydd. Roedd gan yr arglwydd neu'r tirfeddiannwr yr hawl i orfodi'r taeog i weithio ar diroedd yr arglwydd yn ddi-dâl. Ar un adeg roedd y system yn gyffredin trwy Ewrop ac mewn rhannau eraill o'r byd, ac mewn rhai gwledydd parhaodd hyd yn 19g, er enghraifft yn Rwsia, lle rhyddhaodd Alexander II y taeogion ym 1861.

Credir i'r system yma ddatblygu o gaethwasiaeth amaethyddol yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.

Taeogion yng Nghymru

Yng Nghymru, nodir yng Nghyfraith Hywel fod tri dosbarth mewn cymdeithas: y brenin, y breyr (y tirfeddiannwr rhydd) a'r taeog. Nid oedd y taeog heb hawliau cyfreithiol, ond roeddynt yn llai na hawliau'r ddau ddosbarth arall. Er enghraifft, yn ôl Cyfraith Hywel roedd sarhad taeog yn llai, ac roedd rhai crefftau na allai taeog ei dysgu i'w fab heb ganiatad ei arglwydd, sef gofaniaeth, ysgolheictod a barddoniaeth, oherwydd roedd unrhyw un oedd yn dilyn y swyddogaethau hynny yn ŵr rhydd. Gelwid tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol yn faerdref. Dechreuodd y drefn ddadfeilio oherwydd effeithiau'r Pla Du yn y 14g, pan achubodd llawer o daeogion ar y cyfle i adael y tir.

Taeogaeth byd-eang

Deiseb i ddiddymu Taeogaeth o fewn yr Ymerodraeth Hapsburgaidd, 1781

Ni ddiddymwyd taeogaeth mewn rhannau mawr o Ewrope nes ddiwedd y 18g (yn rannol yn sgîl y Chwyldro Ffrengig a choncwest Napoleon o llawer o'r hen drefn fonarchaidd a yna yn hwyrach yn y 19g mewn rhannau eraill o'r cyfandir. Bu'n rhaid aros yn hwy fyth mewn rhannau eraill o'r byd nes diddymu taeogaeth.

Noder y rhestr isod o'r dyddiadau pan diddymwyd taeogaeth na unwyd y tiroedd Almaenig nes 1870 ac felly ceir gwahanol ddyddiadau ymryddhau, noder hefyd, nad oedd nifer o'r gwledydd yma'n annibynnol ar y pryd e.e. Estonia ac felly cafwyd ymryddhad fel rhan o wladwriaeth neu ymerodraeth fwy.

Taeog mewn diwylliant Gymraeg

Mae'r term "taeog" yn cael ei arddel mewn diwylliant Gymraeg fel term o sarhâd ac yn arbennig at agwedd wasaidd at y wladwriaeth Brydeinig neu'r iaith Saesneg.

Defnyddia Dafydd Iwan y term yn ei gân enwog, Yma o Hyd [1] lle cenir

Chwythed y gwynt o'r Dwyrain
Rhued y storm o'r môr
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr
Llifed dagrau'r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas
Ry'n ni'n barod am doriad y wawr![2]

Term mewn gemau

Caiff y term "taeog" ei arddel mewn gemau bwrdd fel gwyddbwyll a draffts i gyfeirio at y darn chwarae mwyaf elfennol a di-rym.

Cyfeiriadau

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.