Tabwrdd

Tabwrdd
Enghraifft o'r canlynolmath o offeryn cerdd Edit this on Wikidata
Mathdrwm tannau, offeryn taro Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun o lawysgrif Galisia-Portiwgaleg o ddynion yn canu amrywiaeth ar dabwrdd a chanu pib, 13g

Mae'r tabwrdd yn offeryn cerddorol syml a chynnar. Defnyddir y gair i gyfeirio at ddrwm bychan (heb glychau) a elwir yn tabor yn Ffrangeg. Mae sawl gwahanol amrywiad ar draws Ewrop i'r offeryn a elwir yn "tabor".

Weithiau, gall tabwrdd gael ei ddefnyddio fel gair arall am tambwrîn yn y Gymraeg ond mae hyn yn gamarweiniol.

Yn aml cenir y tabwrdd gan ganwr mewn grŵp neu fand werin,[1] band gorymdeithio neu i roi naws gerddorol o'r Oesoedd Canol.[2] Defnyddiwyd yr offeryn gan y Cymry yn yr Oesoedd Canol.[3]

Gellid hyd yn oed defnyddio'r gair "tabwrdd" fel ymgais hunanymwybodol i roi enw Cymraeg neu ail-ddyfeisiad o draddodiad cerddorol Gymreig ar ddrwm syml.[4]

Gwneithuriad

Dim ond un cwmni yng Nghymru (a'r byd) sy'n cynhyrchu'r tabwrdd Cymreig sef Marcus Music[5] sydd wedi eu lleoli yn mhlâs Tŷ Tredegar ger ʽCasnewydd. Gwneir y tabyrddau gan Marcus Butler, David Cox a dau grefftwr arall sy'n cadw'r traddodiad yn fyw wrth gynhyrchu'r tabyrddau.[3]

Gwneir y tabwrdd drwy greu cragen o goed bedwen gyda ffram crwn (fel rhod olwyn) o bren onnen gwydn. Mae'r tabwrdd Gymreig yn ddrwm deuwyneb ("double-skinned" yn Saesneg) sef bod croen dros wyneb naill ochr y tabwrdd. Defnyddir croen gafr ar gyfer hyn. Wedi'r broses o lapio, sef rhoi'r croen yn dynn ac yn sicr ar draws y wyneb defnyddir rhâff cywarch i glymu a cadw'r drwm yn wydn. Po fwyaf y drwm yna dyfnaf y traw.

Arddull canu'r tambwrîn

Cenir y tabwrdd drwy ddefnyddio ffon ag iddi ben neu ordd ar ei blaen. Gellir ei chwarae i gyd-fynd ag alawon gwerin mewn sesiwn werin, cyngerdd neu orymdaith. Ymysg chwaraewyr y tabwrdd mae Mick Tems o Dr Price's Fire Band.[6]

Etymoleg

Benthyciad o'r Saesneg Canol, "tabour", neu’n uniongyrchol o’r Hen Ffrangeg yw "tabwrdd" gyda'r -dd ar diwedd y gair o dan ddylanwad y gair "bwrdd".[7] gan roi'r lluosog "tabyrddau". Mae'n golygu 'drwm bychan' ond gall hefyd weithiau olygu tambwrîn.

Y gair Saesneg yw Tabor neu tabret a ddefnyddir i gyfeirio at ddrwm ochr (snare drum) Gymreig cynnar a chwaraeir ag un llaw.[1] Mae'r gair "tabor" fel y gellid disgwyl yn fersiwn Saesneg o'r gair Lladin am "ddrwm".[8]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!