Mae'r Suidlanders (Afrikaans am "Deheuwyr" "South Landers") yn fudiad yn Ne Affrica sy'n rhagweld chwyldro neu derfysg a dymchweliad strwythurau wlad ac yn para

Mae'r Suidlanders (Afrikaans am "Deheuwyr" "South Landers") yn fudiad yn Ne Affrica sy'n rhagweld chwyldro neu derfysg a dymchweliad strwythurau wlad ac yn paratoi cynlluniau ar gyfer i'r Afrikaaners ffoi o'r dinasoedd mawrion.[1][2]
Mae'n ystyried ei hun yn fudiad hunan-amddiffyn yn 2006. Arweinir y mudiad gan Gustav Müller.[3]
Gellir ei ystyried fel mudiad 'survivalist' ethnig. Seilir ei heidioleg ar proffwydolaethau y Boer, 'Siener' ("gweledydd", "proffwyd") van Rensburg. (3 Awst 1864 – 11 Mawrth 192)[4][5] Cred nifer i Rensburg broffwydo y byddai llywodraeth Ddu yn cymryd yr awenau yn Ne Affrica ac y bydd y bobl Afrikaaner Gwyn yn diodde'n fawr o dan y llywodraeth yma. Credant hefyd y bydd yna frwydr dynegfennol olaf a bod angen i'r gymuned Gwyn ei chroen baratoi ar ei chyfer.
Mae'r Suidlanders yn honni bod ganddynt hawl yn ôl cyfraith ryngwladol, yn arbennig Protocol I a II (dyddiad, 8 Mehefin 1977) yn ogystal â Confensiwn Genefa (12 Awst 1949) i'w cynlluniau. Mae Protocol I yn ymwneud ag amddifyn dioddefwyr gwrthdaro arfog ryngwladol a Protocol II yn ymwneud ag amddiffyn dioddefwyr gwrthdaro an-ryngwladol. Rhoddir pwyslais ar Erthyglau 60 i 69 o Protocol I (parthau dad-filwrol ac amddiffyn sifil).[3]
Mae'r mudiad yn ymgymryd mewn ymarferiadau amddiffyn sifil i'w haelodau. Mae'r hyfforddi yn cynnwys; cymorth cyntaf, Training on all aspects of civil defense is provided to members. The training varies from first aid, logisteg, cyfathrebu a rheoli ffoaduriaid (croen-wyn). Maent hefyd yn hysbysu eu haelodau o ddigwyddiadau a phrotestiadau gan baratoi cynlluniau ar gyfer mudo eu haelodau allan o ardaloedd tymhestlog.
Cafwyd rhan mewn pennod o gyfres ddogfen, Dark Tourist ar sianel ffrydio Netflix yn cyfres 1 Pennod 7 20 Gorffennaf 2018 oedd yn cyfweld a dangos gwaith y Suidlanders.[6] Bu hefyd eitem newyddion am y mudiad ar sianel newyddion CNN.[7]
Cafwyd hefyd sylw i'r mudiad gan llefaryddion asgell dde megis Katie Hopkins.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.