Boer (y gair Iseldireg am "ffermwr") yw'r term a ddaeth i gael ei ddefnyddio am ddisgynyddion ymfudwyr o'r Iseldiroedd i Dde Affrica. Datblygodd eu hiaith i fod
| Enghraifft o: | grŵp ethnig |
|---|---|
| Math | Affricaneriaid, Iseldirwyr |
| Poblogaeth | 1,500,000 |
| Rhan o | Dutch diaspora |
| Enw brodorol | Boere |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01kpf |
Boer (y gair Iseldireg am "ffermwr") yw'r term a ddaeth i gael ei ddefnyddio am ddisgynyddion ymfudwyr o'r Iseldiroedd i Dde Affrica. Datblygodd eu hiaith i fod yn Affricaneg.
Ymsefydlodd y Boeriaid yn ardal y Penrhyn yn wreiddiol. Yn y 19g, pan ddaeth yr ardal yma yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, symudodd rhai o'r Boeriaid tua'r gogledd, i greu Talaith Rydd Oren a'r Transvaal, a elwid y Taleithiau Boer. Gelwid y rhai a ymfudodd tua'r gogledd yn Trekboere yn wreiddiol.
Yn ddiweddarach, ymladdasant ddau ryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig, Rhyfel Cyntaf y Boer ac Ail Ryfel y Boer. Heddiw, maent yn defnyddio'r term Afrikaner amdanynt eu hunain fel rheol, er bod yn well gan rai o'r elfennau mwy ceidwadol ddefnyddio'r term Boer.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.