Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Raion Stryi, yn Oblast Lviv, yw Stryi (Wcreineg: Стрий). Saif ar lan orllewinol Afon Stryi, un o lednentydd Afon Dni
Murlun ar ochr adeilad gweinyddol yn Stryd Taras Shevchenko, Stryi. | |
| Math | dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin, anheddiad dynol |
|---|---|
| Poblogaeth | 59,425 |
| Gefeilldref/i | Düren, Bălți, Nowy Sącz, Leszno, Zakopane, Daugavpils, Gradačac, Vegreville, Les Herbiers, Mansfield, Kiskunhalas, Sir Lwówek Śląski, Konotop |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 16.95 km² |
| Uwch y môr | 296 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 49.25°N 23.85°E |
| Cod post | 82419 |
![]() | |
Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Raion Stryi, yn Oblast Lviv, yw Stryi (Wcreineg: Стрий). Saif ar lan orllewinol Afon Stryi, un o lednentydd Afon Dniester, rhyw 71 km i dde Lviv, yng Ngorllewin Wcráin.
Sonir amdani yn gyntaf mewn croniclau o ddiwedd y 14g. Datblygodd yn ganolfan ranbarthol ar y ffordd drwy Fynyddoedd Carpathia o Lviv i Mukachevo, a bu masnach gyda Hwngari yn enwedig o bwysig. Codwyd Castell Stryi yn yr 16g i amddiffyn y dref yn erbyn cyrchoedd o'r dwyrain. Ym 1576, rhoddwyd caniatâd gan Frenin Pwyl i Iddewon ymsefydlu yno. Llosgwyd Stryi sawl gwaith yn yr 17g a'r 18g, gan gynnwys yn ystod Gwrthryfel Khmelnytsky ac o ganlyniad i gyrchoedd gan Datariaid y Crimea.
Yn sgil Rhaniad Cyntaf Pwyl ym 1772, daeth Stryi dan diriogaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Yn y 19g, roedd Wcreiniaid, Pwyliaid, ac Iddewon fel ei gilydd yn cyfri am un rhan o dair o'r boblogaeth. Yng nghanol y 19g adeiladwyd rheilffyrdd yn cysylltu Stryi â safleoedd eraill, a ffynnodd y diwydiannau nwy a pheirianneg o ganlyniad.
Gostyngodd poblogaeth y ddinas o 63,500 yn 2001 i 61,500 yn 2005,[1] ac i 59,600 yn 2021.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.