Yn fathemategol, ffin allanol gwrthrych, neu ei amlinelliad, yw siâp.

Yn fathemategol, ffin allanol gwrthrych, neu ei amlinelliad, yw siâp.
Gellir rhoi rhai siapiau syml mewn categorïau bras. Er enghraifft, mae polygonau yn cael eu dosbarthu yn ôl nifer eu hymylon e.e. trionglau, pedrochrau, pentagonau, ac ati. Rhennir pob un o'r rhain yn gategorïau llai; gall trionglau fod yn hafalochrog, isosceles, lem ac aflem, anghyfochrog, ac ati, tra y gall pedrochrau fod yn betrual, rhombws, trapesoid, sgwâr, ac ati. Ymhlith siapau geometrig eraill y mae: pwyntiau, llinellau, planau a thrychiadau conig megis elipsau, cylchoedd a pharabolâu.
O ran gofod tri dimensiwn, y siapau mwyaf cyffredin yw polyhedra, sef siapau gydag arwynebau fflat, elipsoidau, sef ffurfiau siâp wy neu siâp sffêr, silindrau a conau.[1]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.